Sialens Ddarllen yr Haf yw’r digwyddiad darllen er pleser rhad ac am ddim mwyaf y DU ar gyfer plant 4-12 oed. The Reading Agency sy’n ei gynnal mewn partneriaeth â rhwydwaith llyfrgell cyhoeddus yn y DU.
Eleni mae The Reading Agency wedi lansio Sialens Ddarllen yr Haf digidol am y tro cyntaf mewn ymateb i’r pandemig.
Gwefan Sialens Ddarllen yr Haf
Mae’n caniatáu i blant fewngofnodi i wefan Sgwad Gwirion, er mwyn:
- cyflawni sialensau
- gosod eu nod darllen
- dod o hyd i argymhellion am lyfrau
- cymryd rhan mewn gemau a chystadlaethau
- cael mynediad at adnoddau hwyliog
Yn 2019, bu i 1493 o blant yn Sir Conwy gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf.
Mae Llyfrgelloedd Conwy yn frwdfrydig ynghylch sicrhau bod plant dal i ddarllen. Er y cyfyngiadau cyfredol oherwydd Covid-19, rydym dal wedi ymrwymo i ddarparu Sialens Ddarllen yr Haf eleni.
Rydym yn cynnig gwasanaeth Ffonio a Chasglu o’n 10 llyfrgell a’n llyfrgell deithiol. Gall rieni/gofalwyr gysylltu â ni a gallwn baratoi casgliad o lyfrau/ llyfrau llafar ar sail dewisiadau darllen eu plant a byddwn yn eu rhoi ar eu cerdyn llyfrgell a’u rhoi mewn bag.
Byddwn yn trefnu slot amser i’ch llyfrgell o ddewis i chi ddod i nôl y llyfrau.
Bydd pob plentyn yn cael bag Sgwad Gwirion sy'n cynnwys ffolder, sticeri, pensiliau a strapen arddwrn pan fyddant yn ymuno â’r Sialens.
I gael rhagor o wybodaeth am y Sialens a gwasanaeth Ffonio a Chasglu Llyfrgelloedd Conwy, ewch i:
Llyfrgelloedd Conwy
www.facebook.com/ConwyLibraries
neu ffoniwch 01492 576139
