Dweud Eich Dweud: Cyffordd Llandudno i Lan Conwy - Ymgynghoriad Teithio Llesol Awst 2024
Beth yw’r problemau?
Nid oes unrhyw lwybr teithio llesol rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno ar hyn o bryd. Nid yw’r llwybrau presennol yn addas nac yn hawdd i bawb eu defnyddio.
Ynglŷn â'r prosiect
Diben y prosiect yw creu llwybr teithio llesol rhwng Glan Conwy a mynedfa gwarchodfa’r RSPB yng nghyffordd 18 yr A55. Bydd hwn yn cysylltu â’r cynllun teithio llesol newydd y mae Llywodraeth Cymru’n ei greu yng Nghyffordd 18 a hefyd yn cysylltu â’r bont i’r Cob er mwyn teithio ymlaen i Gonwy.
Yn dilyn gwerthusiad o’r dewisiadau ac ymgynghoriad cyhoeddus, dewiswyd Dewis 4 fel y llwybr a ffefrir.
Darllenwch am yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r llwybr hwn yn cynnwys:
- Pont newydd yn croesi llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy o’r gilfan ar yr A470
- Mynediad ramp o’r bont i lwybr rhwng y rheilffordd ac Afon Ganol
- Pont newydd yn croesi Afon Ganol
- Llwybr a rennir i deithio ar droed, ar feic ac ar olwynion o amgylch perimedr gwarchodfa’r RSPB i’r Ganolfan Ymwelwyr
- Llwybr a rennir i Gyffordd 18 yr A55
- Gwell llwybr i’r bont ar Gob Conwy
Ers cadarnhau’r cyllid, rydym wedi bod yn gweithio ar ddylunio dwy bont newydd at safonau modern a chytuno ar gyfliniad y llwybr a ffefrir gyda’r budd-ddeiliaid allweddol. Bydd y pontydd a’r llwybr a rennir ar gael i bawb eu defnyddio ac yn addas ac yn ddigon llydan i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn, pramiau a sgwteri symudedd.
Delweddau
Pwy sy’n cyllido hyn?
Ariannwyd camau cynnar y gwaith dylunio hwn gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Mae’r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am arian o’r Gronfa Ffyniant Bro i greu’r llwybr teithio llesol hwn.
ukgovlevellingup_cy
Llwybr ymlaen
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y llwybr ymlaen o’r gilfan i ganol pentref Glan Conwy.
Rydym hefyd wedi dechrau edrych ar ddewisiadau strategol ar gyfer y llwybr teithio llesol Môr i’r Mynydd o Gyffordd Llandudno i Fetws-y-coed, sy’n brosiect tymor hwy.