Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi mapiau sy'n nodi llwybrau presennol a dyfodol a'r potensial ar gyfer eu defnydd yn ogystal â sicrhau bod cynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd) yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr yn ystod y cam dylunio.
Daeth cyfnod ymgynghori cychwynnol CBS Conwy ar gynhyrchu mapiau llwybrau presennol i ben yn gynnar ym mis Ionawr 2016 gyda'r Awdurdod yn cyflwyno'r mapiau llwybrau a archwiliwyd i'w cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 22 Ionawr 2016.
Rhoddwyd cymeradwyaeth weinidogol i Gonwy ar 14 Awst 2016 mewn perthynas â mapiau llwybrau presennol:
Cynigir ymgynghoriad ar y map rhwydwaith integredig (INM) / llwybrau bwriedig newydd i gychwyn yn hwyr yn yr Hydref 2016. Rhagor o wybodaeth am lwybrau INM (linc gwe).
Diffiniad Llywodraeth Cymru o 'Deithio Llesol'
Mae Teithio Llesol yn golygu cerdded neu feicio fel dewis amgen i drafnidiaeth fodur (ceir, bysiau ac ati) at ddiben gwneud siwrneiau bob dydd. Mae'r term "cerddwr" yn cynnwys holl ddefnyddwyr heb fodur h.y. cadeiriau olwyn, cadeiriau olwyn trydan, sgwteri symudedd a chymhorthion symudedd eraill.
Mae Teithio Llesol yn 'daith a wneir i neu o weithle neu sefydliad addysgol neu i gael mynediad at wasanaethau neu gyfleusterau eraill'. Mae hyn yn cynnwys cymudo pellter byr, er enghraifft, teithio i'r ysgol, siopau, cyfleusterau hamdden ac ati. Mae'n rhaid i'r llwybr gysylltu â chyfleusterau a gwasanaethau a rhaid iddo fod yn addas ar gyfer cyfleustodau, siwrneiau bob dydd. Nid yw'n cwmpasu llwybrau neu rannau o lwybrau sy'n cael eu defnyddio at ddibenion hamdden.
I gael rhagor o wybodaeth am Deithio Llesol ewch i DTLl / ATW
Llwybrau Teithio Llesol yng Nghonwy
Dylai llwybrau teithio llesol presennol fod yn addas ar gyfer cerdded neu feicio (gan gynnwys defnydd gan ddefnyddwyr di-fodur eraill).
Mae aneddiadau sy'n bodloni gofynion 'Ardaloedd Teithio Llesol' gan Lywodraeth Cymru yng Nghonwy wedi'u nodi fel:
- Abergele a Phensarn
- Bae Colwyn
- Conwy
- Deganwy
- Llandudno
- Llanfairfechan
- Llanrwst
- Llansanffraid Glan Conwy
- Llysfaen
- Hen Golwyn
- Penmaenmawr
- Llandrillo-yn-Rhos
- Tywyn a Bae Cinmel.
Ond, mae goblygiadau ehangach o ran yr Awdurdod yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr wrth arfer nifer o swyddogaethau awdurdod priffyrdd, a gellir ymestyn hyn i unrhyw ddatblygiad newydd lle mae cyfleoedd ar gael i gynnwys gwelliannau i gyfleusterau ar gyfer dibenion cerdded a beicio.
Adborth / Cysylltu:
Os oes gennych unrhyw adborth ar unrhyw lwybrau sydd eisoes yn bodoli neu os hoffech gynnig llwybr / cyswllt newydd, cysylltwch ni â'r teithiollesol@conwy.gov.uk
Amserlen
Mae'r amserlen a roddwyd ar waith gan y Ddeddf Teithio Llesol fel a ganlyn:
- 22 Ionawr 2016 Cyflwyno mapiau llwybr presennol (ERM) i Lywodraeth Cymru.
- Rhoddwyd cymeradwyaeth weinidogol mewn perthynas â mapiau llwybr presennol i Gonwy ar 14 Awst 2016.
- 24 Medi 2017 Cyflwyno map rhwydwaith integredig (INM) ac ailgyflwyno'r map llwybr presennol (ERM) i Lywodraeth Cymru.
- 24 Medi 2020 Ailgyflwyno'r map rhwydwaith presennol (ERM) a'r map llwybr integredig (INM) i Lywodraeth Cymru.