Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymerwch Ran


Summary (optional)
Rhowch adborth neu awgrymu llwybrau Teithio Llesol eraill
start content

Dweud eich dweud ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol Drafft

Hoffem gael eich adborth ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol Drafft ar gyfer Sir Conwy.

Yn gynharach eleni, gofynnom i drigolion am eu barn ar welliannau i’r rhwydwaith teithio llesol, a’r bylchau mewn llwybrau teithio llesol ar draws yr ardal. Derbyniom 563 o sylwadau ar lwybrau ar draws Sir Conwy.

Rydym wedi defnyddio’r adborth hwn i’n helpu ni i ddatblygu map sy’n dangos llwybrau newydd posibl y gallwn eu cyflwyno yn y dyfodol. Bydd y llwybrau i’w rhannu gan bobl sy’n cerdded, ar olwynion ac yn beisio, a bydd union natur y llwybrau yn cael eu cadarnhau yn y map terfynol. Mae’n bwysig iawn bod y map yn cynnwys holl lwybrau Teithio Llesol posibl yn y dyfodol – os nad yw llwybr wedi’i gynnwys ar y map, ni all y Cyngor wneud cais am gyllid i’w greu. 

Mae’r llwybrau yn y dyfodol a ddangosir ar y map drafft yn cynrychioli syniadau ar gyfer rhwydwaith hirdymor a’n nodau hirdymor.  Byddwn yn creu’r llwybrau hyn mewn camau dros nifer o flynyddoedd, yn dibynnu ar y cyllid a dderbyniwn gan Lywodraeth Cymru. Mae nodi’r llwybrau hyn ar fap yn gam cyntaf pwysig a fydd yn ein caniatáu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.  Wrth i ni gynhyrchu cynigion manwl ar gyfer llwybrau newydd a gwelliannau i lwybrau presennol, bydd y rhain yn destun eu dyluniad a phroses ymgynghori eu hunain.

Dweud eich Dweud

Rydym yn gofyn i drigolion wneud sylwadau ar ein map drafft.

Hoffwn glywed eich barn ar y llwybrau presennol a’r llwybrau newydd arfaethedig sydd wedi’u cynnwys ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol Drafft. Os oes rhywbeth ar goll, rhowch wybod i ni.  Efallai eich bod yn gwybod am lwybr cerdded da sy’n cysylltu ardal breswyl i ysgol, neu lwybr beicio a hoffech ei ddefnyddio i fynd i’r siopau.  Neu efallai fod gennych syniad o ran lle i roi llwybr newydd defnyddiol.

Hefyd hoffwn glywed am eich sylwadau ar ba lwybrau yn y dyfodol yr ydych chi’n credu y dylwn eu cyflwyno fel blaenoriaeth.

Sut fyddwn yn defnyddio eich sylwadau

Unwaith i ni gasglu eich holl adborth, byddwn yn adolygu’r map a gwneud y newidiadau lle bynnag fo’n briodol. Yna byddwn yn cyflwyno’r map i Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn 2021 ar gyfer cymeradwyaeth.

Yna bydd y map yn ffurfio’r sail ar gyfer y gwaith a wnawn dros y bymtheg mlynedd nesaf i wella cyfleoedd cerdded a beicio ar draws sir Conwy. Byddwn yn ymgynghori eto ar fersiwn ddiwygiedig o’r map bob tair mlynedd wrth i’r rhwydwaith ddatblygu.

Llenwch arolwg ar-lein

Defnyddiwch yr arolwg ar-lein er mwyn rhoi gwybod i ni am lwybrau presennol ac yn y dyfodol. Gallwch ddewis pa ardaloedd yr hoffech wneud sylw arnynt.

Adborth ar yr ymgynghoriad

Ar gau: 28 Rhagfyr 2021

Diolch i holl aelodau’r cyhoedd a sefydliadau sydd wedi rhoi eu hamser ac wedi meddwl am ddatblygu ein cynigion am lwybrau at y dyfodol.

end content