Fe gewch isod y dolenni i gynigion INM Conwy, mae’r rhain yn cynrychioli ein gweledigaeth gwella drafft 15 mlynedd Teithio Llesol i wella llwybrau cerdded a beicio ar draws ein Sir. Rydym yn dymuno creu cyfleoedd i gael poblogaeth ac amgylchedd iachach a mwy cynaliadwy.
Yn dilyn asesiad ac adolygiad manwl, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gynigion INM Conwy ar 27 Chwefror, 2018. Mae Cyngor Conwy yn dymuno diolch i’r cyhoedd a’r sefydliadau a roddodd eu hamser a’u profiad i ddatblygu’r llwybrau cychwynnol a gynigiwyd. Gallwch weld copi o’r llythyr cymeradwyo a dderbyniwyd yma.
Mae cynigion INM yn ofynnol yn ôl Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Bydd darparu’r llwybrau a ddangosir yn dibynnu ar argaeledd cyllid cynllun Teithio Llesol a gall y llwybrau newid fel y cânt eu datblygu. Mae pob llwybr a ddangosir ar y map yn cynrychioli rhodfa 15 medr o led (50 troedfedd), os ydych yn gweld llinell ar ochr ogleddol i’r llwybr, mae’n rhaid i chi ddeall efallai bydd y llwybr yn mynd i ochr dde’r llwybr neu hyd yn oed ar y ffordd. Os yw’r llwybr a ddangosir fel llwybr oddi ar y ffordd a rennir, efallai bydd dal yn parhau fel llwybr ar y ffordd. Y rheswm dros hyn yw am nad ydym wedi cyrraedd y lefel o ddylunio manwl sydd ei angen i bennu llwybrau yn fanwl.
Dim ond dechrau’r broses hon fydd y llwybrau INM a ddangosir yma, rhaid i bob awdurdod lleol ail gyflwyno cynlluniau gwell yn barhaol oddeutu bob tair blynedd. Mae’r mapiau isod yn dangos beth mae’r cyhoedd wedi gofyn amdanynt a sut y mae’r Cyngor yn credu y gallai eu darparu orau yn y lle cyntaf.
Adroddiad Cynnydd Blynyddol i Lywodraeth Cymru