Gallwch ddefnyddio’r system PayByPhone i dalu am barcio am hyd at 14 diwrnod. Ewch i’r dudalen Talu mewn Meysydd Parcio i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwn roi trwyddedau parcio ar gyfer unrhyw feysydd parcio arhosiad hir yng Nghonwy, wedi’i addasu ar gyfer eich anghenion chi.
- Trwydded hiraf: Trwydded 12 mis
Gallwch wneud cais ar gyfer unrhyw rai o’r meysydd parcio arhosiad hir canlynol:
- Water Street, Abergele
- Pont y Pair, Betws-y-coed
- Douglas Road, Bae Colwyn
- Morfa Bach, Conwy
- Mount Pleasant, Conwy
- Dale Road, Llandudno
- Maelgwyn Road, Llandudno
- Venue Cymru, Llandudno
- York Road, Llandudno
- Heol Watling, Llanrwst
- Colwyn Avenue, Llandrillo-yn-Rhos
Cysylltwch â ni o leiaf 10 diwrnod cyn i chi gyrraedd ar eich gwyliau, er mwyn i ni gael amser i bostio’r drwydded i chi.
Bydd angen i chi ddweud wrthym ni pa faes neu feysydd parcio y byddwch chi eisiau eu defnyddio, pryd y byddwch chi angen y drwydded ac am faint o amser y byddwch chi ei hangen. Cofiwch roi eich manylion cyswllt llawn i ni..
Mae mwy o wybodaeth am drwyddedau blynyddol ar gael ar y dudalen Tocynnau Parcio.
Cysylltwch â ni
Ffonio: 01492 576622
Ar-lein: Ymholiad Gwasanaethau Parcio