Mae 13 o dryciau graeanu gennym, sydd ar alw 24 / 7 rhwng mis Hydref a Chwefror. Pan fydd y rhagolygon yn dangos amodau gaeafol a thymheredd isel ar arwyneb y ffyrdd, mae’r tryciau yn cael eu hanfon allan ar Lwybrau Blaenoriaeth sy’n cynnwys un rhan o dair o ffyrdd y sir. Mae’r llwybrau hyn yn cynnwys y prif lwybrau traffig a bysiau a llwybrau ar gyfer y gwasanaethau brys. Rydym yn credu bod y cerbydau hyn sydd yn gweithio mor galed yn haeddu eu henwau eu hunain.
Awgrymu enw
Dylai awgrymiadau fod yn hwyliog, yn wreiddiol ac yn lân, ac yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Panel beirniadu
Mae’n panel beirniadu yn cynnwys staff gwaith y gaeaf, a’r Cynghorydd Greg Robbins - Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant Nhw sydd â’r gwaith caled o greu rhestr fer o’r holl awgrymiadau a geir gan y cyhoedd.
Pleidlais gyhoeddus
Pleidleisiwch dros enwau ein graeanwyr!
Ar Gau: Dydd Llun 22 Chwefror