Cyfeirnod: CCBC - 045241
Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Siambar Wen Llanrwst / Bro Garmon) (Gwahardd Gyrru) 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud Gorchymyn dan Adrannau 1 a 2 Deddf Rheoliadau Trafnidiaeth 1984 a’i effaith fydd gwahardd cerbydau rhag mynd ar hyd y darn ffordd fel a nodir yn yr Atodlen isod. Bydd eithriadau yn cael eu rhoi yn y Gorchymyn i ganiatáu mynediad i breswylwyr ac at ddibenion gwaith cynnal, trwsio a gwaith cyffelyb.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â map sy’n dangos y darn ffordd y mae'r Gorchymyn yn berthnasol iddynt, a datganiad o resymau'r Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yn Swyddfeydd y Cyngor Coed Pella Bae Colwyn, Llyfrgell Llanrwst ac ar wefan y Cyngor.
Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â'r rhesymau drostynt, ar bapur at yr Adran Draffig, yr Amgylchedd Ffyrdd a Chyfleusterau, Blwch Post 1, Conwy LL30 9GN neu at traffig@conwy.gov.uk erbyn 10 Chwefror 2023.
Atodlen - Gwahardd Gyrru ac eithrio ar gyfer mynediad
Siambar Wen, Llanrwst / Bro Garmon
- O bwynt 30 metr tua’r dwyrain o’i chyffordd â‘r A470 Ffordd Berthddu i’w chyffordd â’r B5427 Ffordd Cae’r Melwr i Ffordd Nebo
Dyddiedig: 18 Ionawr 2023
Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Tudalen Nesaf: Gorchymyn Arfaethedig