Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Siambar Wen, Llanrwst / Bro Garmon - Gwahardd Gyrru: Gorchymyn Arfaethedig


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn arfaethedig yw:
  • atal difrod i'r ffordd
  • atal traffig anaddas, o unrhyw fath, rhag defnyddio'r ffordd
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Siambar Wen Llanrwst / Bro Garmon) (Gwahardd Gyrru) 2023


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor"), gan arfer ei bwerau dan Adran 1 a 2 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984") a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III, Atodlen 9, Deddf 1984, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:-

  • 1.  Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 2 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu ar gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai  achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd modur fynd ar hyd y darn ffordd hwnnw fel y nodir yn yr Atodlen isod.

  • 2.  Ni weithredir unrhyw beth yn Erthygl 1 y Gorchymyn hwn mewn modd a fydd yn rhwystro unrhyw un rhag achosi i unrhyw gerbyd fynd ar hyd y darnau hwnnw o'r ffordd, os yw'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio:

    • (a)  At mynediad  breswylwyr a thirfeddianwyr cyfagos

    • (b)  Mewn cysylltiad ag unrhyw waith adeiladu neu ddymchwel ar y darn hwnnw o'r ffordd neu'n gyfagos iddo;  symud unrhyw rwystr ar drafnidiaeth ar y darn hwnnw o'r ffordd;  cynnal, gwella neu ailadeiladu'r darn hwnnw o'r ffordd;  neu osod, adeiladu, newid, neu drwsio, y darn hwnnw o'r ffordd neu'n gyfagos iddo, unrhyw garthffos, pibell neu gyfarpar ar gyfer cyflenwi nwy, dŵr neu drydan, neu unrhyw linell delegraffig fel mae’n cael ei ddiffinio yn Neddf Telathrebu 1984

    • (c)  Os nad yw’n bosibl defnyddio’r cerbyd at bwrpas o’r fath ar unrhyw ffordd arall ar gyfer un o wasanaethau’r Awdurdod Lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus er mwyn cyflawni pwerau a dyletswyddau statudol

    • (d)  At ddibenion yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân neu’r Gwasanaeth Ambiwlans

  • 3.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar                                    , a gellir ei ddyfynnu fel Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Siambar Wen Llanrwst/Bro Garmon) (Gwahardd Gyrru) 2023. 

Atodlen - Gwahardd Gyrru ac eithrio ar gyfer mynediad

Siambar Wen, Llanrwst / Bro Garmon

  • O bwynt 30 metr tua’r dwyrain  o’i chyffordd â‘r A470 Ffordd Berthddu i’w chyffordd â’r B5427 Ffordd Cae’r Melwr i Ffordd Nebo

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor y Fwrdeistref Sirol ar y                dydd hwn o                              Dwy fil a tair ar hugain

Tudalen Nesaf:  Map

end content