Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cynllunio, Rheoli Adeiladu, a Chadwraeth Newidiadau i drin taliadau gydag arian a siec

Newidiadau i drin taliadau gydag arian a siec


Summary (optional)
start content

Mae’r awdurdod wrthi’n gwneud rhai newidiadau i’w weithdrefnau, ac fel rhan o’r newidiadau hyn gwnaed penderfyniad corfforaethol i beidio â derbyn taliadau arian parod na siec yn ein swyddfeydd o 1 Hydref 2018 ymlaen.

Felly os byddwch chi eisiau galw draw i wneud taliad, dim ond taliadau cerdyn electronig fydd yn cael eu derbyn neu gellir gwneud taliad ar-lein (ble bo’n addas) gan ddefnyddio un o’r terfynellau cyfrifiadur yn y dderbynfa.

Bydd y newid hwn yn digwydd ym mhob un o’r prif swyddfeydd yng Nghonwy, ond ni fydd yn berthnasol yn y Llyfrgelloedd, y Canolfannau Hamdden na Neuadd y Dref Llandudno, fydd yn parhau i dderbyn taliadau arian parod.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i dderbyn taliadau drwy siec a anfonir drwy’r post.

 

end content