Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd i’w Archwilio gan y Cyhoedd o 12 Ionawr tan 8 Mawrth 2026.
Gellwch wneud sylwadau ar-lein:
neu drwy’r ffurflenni hyn a’i hanfon drwy e-bost i cdll.ldp@conwy.gov.uk neu drwy’r post i’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG:
Mae Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ar gael hefyd. Eich dewis chi yw llenwi’r ffurflen hon neu beidio. Ni chaiff yr atebion i’r cwestiynau byth eu defnyddio mewn unrhyw ffordd a fydd yn datgelu’r sawl a’u rhoddodd a dim ond yn sail ar gyfer gwella trefniadau cynhwysiant:
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 8 Mawrth 2026.
Rydym wedi trefnu amryw ddigwyddiadau ledled y Fwrdeistref Sirol i bobl alw heibio i weld y dogfennau a’u trafod gyda swyddogion cynllunio:
- Dydd Gwener 30 Ionawr: Eglwys Fethodistaidd Hen Golwyn, 10am tan 7pm
- Dydd Mercher 4 Chwefror: Llyfgell Abergele, 1.30pm tan 7pm
- Dydd Llun 9 Chwefror: Neuadd Hen Ysgol Llanrhos, 3pm tan 7pm
- Dydd Mercher 11 Chwefror: Neuadd Hen Ysgol Llanrhos, 10am tan 2pm
- Dydd Mercher 18 Chwefror: Glasdir, Llanrwst, 10am tan 7pm
- Dydd Mercher 25 Chwefror: Neuadd Tref Llanfairfechan, 10am tan 7pm
Gwybodaeth ategol: