Opsiwn 2 - Cais am Hanes Cynllunio â Ffi Taladwy 1948 (wedi'i ddychwelyd o fewn 8-10 diwrnod gwaith)
Mae hwn yn chwiliad hanes llawn o Benderfyniadau Cynllunio, Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig a Rhybuddion Gorfodaeth o 1948 hyd heddiw.
Caiff copïau o hysbysiadau penderfyniadau cynllunio a ddatgelwyd eu hanfon yn ôl dros e-bost/drwy'r post i'ch cyfeiriad cyswllt o fewn 8-10 diwrnod gwaith o dderbyn taliad.
I gael copïau o Ardaloedd Cadwraeth datguddiedig, Adeiladau Rhestredig, Hysbysiadau gorfodaeth ac ati yn unig, anfonwch e-bost at: hanescynllunio@conwy.gov.uk Bydd ffi copi yn gymwys.
Taliad
Cwblhewch y ffurflen gais isod, ynghyd â chynllun wedi'i farcio'n glir a siec am £25.00 (yn daladwy i 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy). Anfonwch at:
Hanes Cynllunio
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Ffurflen Gais Hanes Cynllunio 1948 - Ffi yn daladwy (Dogfen Word)
Ffurflen Gais Hanes Cynllunio 1948 - Ffi yn daladwy (Dogfen PDF)