Bydd yn rhaid trefnu apwyntiad i ymweld â’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Gallwch drefnu apwyntiad yma
Gall trigolion gasglu compost am ddim pan fyddant yn ymweld â’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae’r compost wedi’i wneud gan ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd.
Dewch â'ch bagiau a’ch rhaw eich hun.Gallwch lenwi a mynd â hyd at ddau bag 40 litr ar y tro. (Ni ddylai’r bagiau bwyso dros 20kg ar ôl eu llenwi.)
- Mae’r compost ar gael ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu.
- Oherwydd cyfyngiadau o ran lle a lefelau galw uchel, mae cyfyngiadau ar y cyflenwadau compost.
- Rydym yn ail-gyflenwi stoc yn rheolaidd ar y safleoedd, ond mae’n bosibl y bydd cyflenwadau yn isel neu na fydd unrhyw gompost ar gael ar rai adegau.
Er mwyn osgoi siwrnai wastraffus, mae compost ar gael i drigolion sydd eisoes yn ymweld â’r canolfannau i ailgylchu gwastraff, ond nid ydym yn cynnig apwyntiadau i gasglu compost yn unig.
Bydd angen i chi drefnu apwyntiad i ymweld â’r ganolfan. Mae hyn yn galluogi’r canolfannau i reoli llif traffig a niferoedd cerbydau ac mae’n golygu na fydd yn rhaid i chi aros yn hir.