Os ydych yn byw mewn ardal wledig, gallwch ffonio Crest ar 01492 596783 i drefnu i gasglu bagiau pinc a phiws
Peidiwch â rhoi gwybod na chafodd eich bin ei wagio:
- Os nad oedd eich bin ar olwynion neu gynwysyddion ailgylchu yn y man casglu erbyn 7am.
- Os nad oedd eich bin a chynwysyddion ailgylchu allan a bod casgliad wedi'i wneud ar eich stryd, ni fydd y criw casglu yn gallu dychwelyd.
- Mae problemau mynediad neu rwystrau ar eich stryd.
- Ni fydd y criw casglu yn gallu casglu eich bin ar olwynion neu gynwysyddion ailgylchu os oes unrhyw rwystrau neu broblemau mynediad.
- Mae eitemau yn eich bin ar olwynion neu gynhwysydd ailgylchu na all y criw casglu eu casglu neu eich bod â gwastraff ychwanegol ar yr ochr.
Ni fydd Conwy’n casglu gwastraff neu ailgylchu sydd ddim yn y cynhwysydd cywir. Gweler Pa fin ddylwn i ei ddefnyddio i wybod beth ddylai fynd i'ch bin ar olwynion a chynwysyddion ailgylchu.
Rydych yn ceisio rhoi gwybod am broblem cyn 3pm. Mae'r criw casglu’n gorffen eu casgliad am 3pm. Arhoswch tan ar ôl 3pm i roi gwybod am gasgliad a fethwyd rhag ofn bod y criw wedi’i oedi.
Os nad yw'r ffactorau hyn yn gymwys, cliciwch yma i barhau