Sut allaf i wneud cais?
Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas:
Trwy lawrlwytho ffurflen bapur
dros y ffôn trwy alw 01492 577800
wyneb yn wyneb trwy fynd i:
Coed Pella
Conway Road
Bae Colwyn
LL29 7AZ
Gallwch hefyd wirio a ydych yn gymwys (PDF) am fathodyn glas trwy ymweld â gwefan Cyngor Conwy. Bydd angen i chi anfon dogfennaeth benodol fel tystiolaeth ynghyd â’ch cais. Ceir manylion ar y rhain ar y ffurflen gais.
Mae Bathodyn Glas yn ddilys am gyfnod o 3 blynedd, a bathodyn dros dro am gyfnod o 12 mis.
Lle medraf i barcio?
Nid trwydded i barcio lle y mynnir yw’r Bathodyn Glas. Pan fyddwch yn derbyn Bathodyn Glas, mae’n bwysig nad ydych yn parcio mewn man lle gallai eich cerbyd fod yn rhwystro neu achosi perygl i eraill. Yng Nghonwy:
- Gall deiliaid Bathodynnau Glas barcio am ddim ac heb gyfyngiad amser lle bo mesuryddion parcio a chyfyngiadau talu-ac-arddangos wrth barcio ar y stryd oni bai bod gorchymyn traffig lleol – yn nodi cyfyngiad amser i ddeiliaid bathodynnau parcio anabl – mewn grym.
- Gall deiliaid Bathodynnau Glas fod wedi eu heithrio o gyfyngiadau parcio sydd wedi eu gosod ar ddefnyddwyr eraill (gwiriwch trwy edrych ar arwyddion lleol am wybodaeth)
- Fel arfer, gall deiliaid Bathodynnau Glas barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at 3 awr. Mae’n rhaid i’r disg parcio arddangos eich amser cyrraedd.
Beth os oedd fy nghais yn aflwyddiannus?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn llwyr gyfrifol am y penderfyniad i ddyrannu neu beidio dyrannu Bathodyn Glas i unigolyn. Nid oes hawl i apelio yn erbyn y dyfarniad ar wahân i apelio i’r Ysgrifennydd Gwladol o fewn 28 diwrnod i dderbyn y llythyr yn gwrthod eich cais.
Caiff copi o’r weithdrefn ailasesu ei anfon atoch. Gellir ystyried ailasesiad os oes gwybodaeth feddygol ychwanegol sylweddol ar gael sydd yn effeithio ar symudedd ac nad oedd yn gynwysedig yn eich cais gwreiddiol.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am ailasesiad, ysgrifennwch atom o fewn 28 diwrnod i dderbyn eich llythyr gwrthod, gan ddarparu’r wybodaeth feddygol ychwanegol.
Sut mae dychwelyd Bathodyn nad oes ei angen bellach?
Mae’r Bathodyn Glas yn parhau fel eiddo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Os nad oes arnoch ei angen bellach, mae’n rhaid ei ddychwelyd i:
Adran Gofal Cymdeithasol
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Sut gallaf gael cloc newydd ar gyfer fy mathodyn?
Cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at: bathodynglas@conwy.gov.uk
Beth os oes newid i fy manylion?
Os ydych yn newid eich enw neu eich cyfeiriad, neu yn cael car newydd sydd â rhif cofrestru gwahanol, cysylltwch â ni. Ni fyddwn yn codi tâl arnoch am wneud y newidiadau.
Gwybodaeth bellach
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y Cynllun Bathodyn Glas ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cofiwch: Mae’n drosedd i gamddefnyddio Bathodyn Glas, ac fe allech dderbyn dirwy o hyd at £1000. Gallwch weld canllawiau ar ddefnydd cywir o’r Bathodyn Glas (PDF) ar wefan Llywodraeth Cymru.