Dwy ffordd y gallwch gymryd rhan yn y gwaith partneriaeth yng Nghonwy yw drwy'r Cyngor Ieuenctid a'r Rhwydwaith Cyfranogi
Beth yw’r Cyngor Ieuenctid?
Diben Cyngor Ieuenctid Conwy yw i blant a phobl ifanc gael llais a chael dewis mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Rydym yn gweithio ar brosiectau a syniadau a all wneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc yng Nghonwy.
Mae gennym gynrychiolwyr o bob rhan o Gonwy, sy’n dod o ysgolion, grwpiau ieuenctid a grwpiau diddordeb arbennig.
Dyma rai o'r pethau rydym wedi gweithio arnynt yn ddiweddar:
- Ymgyrch i hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol
- Iechyd Rhywiol
- Cynllun Sy'n derbyn gofal (fersiwn plant a phobl ifanc o'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol) - gweithio gyda'r fforwm Lleisiau Uchel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
- Cyfarfod â phenaethiaid gwasanaeth i siarad am ein safbwyntiau
- Cyfarfod ag aelodau'r Cabinet i drafod diwygio llywodraeth leol
- Nesaf - byddwn yn gweithio ar Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol
I gael gwybod mwy, cymerwch olwg ar y wefan (yn gysylltiedig isod). Os ydych yn berson ifanc a hoffai ymuno â'r Cyngor Ieuenctid, cysylltwch â ni.
Beth yw’r Rhwydwaith Cyfranogi?
Mae Rhwydwaith Cyfranogi Conwy yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan a dweud eich dweud am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghonwy.
Mae dwy ffordd o fod yn rhan o'r Rhwydwaith Cyfranogi:
- Grŵp y Rhwydwaith Cyfranogi:
- Rydym yn cyfarfod unwaith y mis
- Rydym yn cynrychioli ein grŵp neu ein fforwm cymunedol
- Rydym yn cymryd rhan gyda grwpiau a gwaith a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
- Rhwydwaith Cyfranogi Ehangach
- Rydym yn cadw mewn cysylltiad drwy anfon gwybodaeth atoch am gyfleoedd i ddweud eich dweud.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Rhwydwaith, neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â cyfranogi@conwy.gov.uk , neu Pauline Roberts ar 01492 574039
Ffyrdd eraill o gymryd rhan
Mae llawer o ffyrdd eraill i gyfranogi a chael dweud eich dweud yng Nghonwy. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy!
Cyngor Ieuenctid Conwy