Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bwthyn y Ddôl


Summary (optional)
start content

Penodwyd Wynne Construction gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddylunio ac adeiladu Bwthyn y Ddôl, Canolfan Asesu Plant newydd ym Mae Colwyn.

Nod Bwthyn y Ddôl, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yw sicrhau mwy o gefnogaeth i blant yng ngogledd Cymru gydag anghenion cymhleth a’u teuluoedd.

Dylai’r cyfleuster hwn sy’n cael ei adeiladu’n bwrpasol ym Mae Colwyn ac sy’n cynnwys tri adeilad unllawr, gael ei gwblhau ym mis Medi 2024, a dyma fydd y cyfleuster cyntaf o’i fath yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Mae’r prosiect yn cynnwys uned asesu bwrpasol i gynnal therapïau a gofal, ynghyd â llety i’r plant gael aros yno.

Mae prosiect Bwthyn y Ddôl wedi’i ariannu drwy Gronfa Gofal Integredig a Chronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd y gwaith yn yr haf gyda dymchwel yr adeilad presennol, a chynhaliom seremoni dorri tyweirch i nodi dechrau’r cam adeiladu yn swyddogol ym mis Gorffennaf.  Ers hynny, mae’r gwaith wedi datblygu’n dda - er mai mis Hydref oedd un o’r gwlypaf a gofnodwyd.  Rydym bellach wedi cwblhau’r sylfeini ar y tri adeilad, gyda’r ffrâm bren a’r trawstiau to wedi’u cwblhau ar un ohonynt.

Cynnydd diweddar ar y safle

 

Fel rhan o ymrwymiad Wynne Construction i weithio gyda’r gymuned leol, maent wedi cytuno i dirlunio ardal ym Mharc Eirias gyda chymorth eu hisgontractwyr, AJC.

Maent hefyd yn gweithio’n galed i ddarparu profiad gwaith ar y safle i weithredwyr cyffredinol drwy Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy, a chynnal ymweliadau bob pythefnos gan fyfyrwyr cyfryngau creadigol yng Ngholeg Llandrillo sy’n gweithio ar fideo i ddogfennu’r broses adeiladu.

Byddant hefyd yn ymweld ag ysgolion lleol i gyflwyno gweithdai ynghylch gyrfaoedd ym maes adeiladu.

end content