Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Teuluoedd yn Gyntaf


Summary (optional)
Dewch i wybod am gefnogaeth i deuluoedd yng Nghonwy a gwneud cais am gyllid Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer prosiectau.
start content

Pe gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd yng Nghonwy?

Cliciwch yma ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, i gael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd yng Nghonwy, gan gynnwys prosiectau a ariennir gan Deuluoedd yn Gyntaf.

Gweler isod restr o'r holl brosiectau a ariennir gan Deuluoedd yn Gyntaf.

A allaf wneud cais am gyllid ar gyfer prosiect?

Pan fydd cyfleoedd ariannu ar gael maent yn cael eu hysbysebu trwy CGGC a'r Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Cliciwch yma am fanylion.

Sut mae prosiectau’n cael eu monitro?

Mae copïau o'r cerdyn adrodd a ddefnyddir i fonitro a gwerthuso prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf, ac arweiniad ar gyfer llenwi'r cerdyn adrodd, ar gael ar gais.

Beth ydym ni’n ei wneud yng Nghonwy i sicrhau gwell iechyd a lles, addysg a chyflogaeth ar gyfer teuluoedd sy’n byw mewn tlodi?

Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw ceisio gwella iechyd, lles, addysg, addysg  a gwytnwch  teuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Rydym yn anelu at gyflawni hyn mewn sawl ffordd:

  • Canolfannau Teuluoedd Conwy: Yn seiliedig ar lwyddiant Canolfan Teuluoedd Llanrwst, rydym yn sefydlu Canolfan Teuluoedd ar draws Conwy lle gall teuluoedd gael cefnogaeth a mynediad i weithgareddau a      chymorth sefydliadau 3ydd sector/ gwirfoddol.
  • Comisiynu: Rydym yn adnabod anghenion lleol ac yn gweithio gyda Phartneriaeth Pobl Conwy, a phartneriaethau eraill ar draws Gogledd Cymru, i benderfynu beth y gellir ei wneud i fynd i’r afael â’r anghenion hynny.
  • Prosiectau: Rydym yn ariannu prosiectau i gefnogi teuluoedd diamddiffyn ar draws Conwy. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn gweithio yn y Canolfannau Teuluoedd.
  • Setiau Dysgu: Rydym yn rhannu’r hyn yr ydym wedi’i wneud a’r hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus gyda      phartneriaethau ar draws Gogledd Cymru.


Sut gafodd y prosiectau eu dewis?

Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil er mwyn darganfod y materion allweddol yr oedd angen mynd i’r afael â nhw i sicrhau gwell iechyd a lles, addysg a gwytnwch ar gyfer teuluoedd mewn tlodi yng Nghonwy.

Y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r ymchwil oedd:

  • Iechyd meddwl ac emosiynol
  • Teuluoedd yn chwalu a cham-drin domestig
  • Arian a chyllid
  • Cyflogaeth
  • Gwybodaeth
  • Plant ag anableddau

Yna fe wnaethom asesu ceisiadau am grantiau a dewis y prosiectau i'w hariannu yr ydym yn credu y byddant yn cael yr effaith fwyaf o ran mynd i'r afael â'r materion hyn. Gweler isod i gael fersiynau llawn a chryno o’n hadroddiad ymchwil.

Angen unrhyw beth arall?

Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm i gael unrhyw wybodaeth bellach:

E-bost: teuluoeddyngyntaf@conwy.gov.uk

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content