Rhinweddau sydd eu hangen i ddod yn Ofalwr Maeth a’r meini prawf cymhwyso.
Fel gofalwr maeth, bydd angen i chi:
- Roi gofal o safon dda i blant pobl eraill i hyrwyddo eu diddordebau iechyd, addysg a hamdden
- Gallu gwrando a chyfathrebu gyda phlant / pobl ifanc mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran a'u dealltwriaeth
- Bod yn barod i ddysgu sgiliau newydd
- Gallu helpu'r plentyn / person ifanc i gadw mewn cysylltiad â'u teulu, ffrindiau a gweithgareddau cymunedol lleol fel y bo’n briodol
- Gallu rhoi ffiniau yn eu lle er mwyn rheoli ymddygiad mewn modd effeithiol a chadarnhaol i alluogi plant / pobl ifanc i dyfu i fod yn oedolion cyfrifol a chytbwys
- Cael egni a chymhelliant i barhau i fod yn ymrwymedig i blentyn / person ifanc drwy adegau sy’n fwy heriol
- Gallu gweithio gyda'r holl weithwyr proffesiynol, a deall eu rôl, sy'n ymwneud â bywyd y plentyn / person ifanc
Rhai cwestiynau y dylech ofyn i’ch hun:
- A oes gennych amynedd, dealltwriaeth a synnwyr digrifwch?
- A ydych yn gynnes ac yn hoff o fagu plant?
- A oes gennych agwedd anfeirniadol a gwrth-wahaniaethol?
- A ydych chi'n berson gwydn ac yn gallu ymdopi ag emosiynau eithafol y byddwch yn eu profi a'r ymateb y byddant yn disgwyl gennych?
- A ydych chi'n wrandäwr da?
- A allwch chi gyfathrebu'n agored ac yn onest?
- A allwch chi fod yn hyblyg ond hefyd yn gallu gosod ffiniau clir?
- A allwch chi fynegi barn ar lafar ac yn ysgrifenedig?
- A fyddech yn croesawu arweiniad a chefnogaeth?
Gwneud cais am Becyn Gwybodaeth heddiw
A ydych yn dymuno trosglwyddo o Asiantaeth Faethu arall?