Rydw i'n sengl / yn hoyw neu'n lesbiad / heb blant - ydw i'n dal yn gallu maethu?
Mae gofalwyr maeth yn dod o bob math o gefndiroedd. Beth bynnag yw eich cefndir, y rhinweddau sydd gennych ar gyfer maethu sy'n cyfrif. Nid oes ots a ydych yn ddyn neu'n ddynes sengl, yn briod, wedi ysgaru, mewn partneriaeth sifil neu'n cydfyw â rhywun. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl nad oes ganddynt blant yn ogystal â rhai sydd â phlant, waeth beth yw eu statws perthynas, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Y cyfan yr ydym yn ei ofyn yw eich bod wedi bod mewn sefyllfa 'sefydlog' am o leiaf 18 mis.