Gwneud cais am Becyn Gwybodaeth heddiw
Ewch
Rydym yn credu bod gofalwyr maeth, fel pob gweithiwr proffesiynol, â’r hawl i ddewis pwy maent yn gweithio iddynt. Er bod pob achos yn cael ei ystyried yn unigol, os ydyw’n amser i newid, gallai fod yn haws nag y byddech yn ei feddwl i drosglwyddo i Wasanaeth Maethu Conwy.
Rydym wedi mabwysiadu protocol trosglwyddo’r Rhwydwaith Maethu sy'n anelu at sicrhau bod "buddiannau plant yn cael eu diogelu pan fydd gofalwyr maeth yn trosglwyddo rhwng gwasanaethau maethu" (y Rhwydwaith Maethu, 2014). Mae cadw plant a phobl ifanc Conwy yng Nghonwy yn bwysig iawn i ni.
Os ydych yn credu ei bod yn amser i newid, cysylltwch â ni ar 01492 576350.