Drwy lenwi ffurflen byddwch yn gallu darparu a llunio gwybodaeth a allai fod yn hanfodol i Heddlu Gogledd Cymru pe bai angen cymorth ar unigolyn diamddiffyn.
Yna bydd yr unigolyn yn cael cerdyn, a fydd yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am yr unigolyn fel sut maen nhw’n cyfathrebu, a oes ganddynt unrhyw faterion iechyd ac unrhyw gysylltiadau brys fel rhieni neu ofalwyr.
Mae’r cerdyn wedi’i gynllunio i wneud pobl ddiamddiffyn yn fwy ymwybodol o’u diogelwch personol, i annog adrodd am drosedd - yn enwedig trosedd casineb - a gofyn am help os oes ei angen arnynt.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru.