Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Digwyddiad Dathlu a Gwybodaeth Niwroamrywiaeth

Digwyddiad Dathlu a Gwybodaeth Niwroamrywiaeth


Summary (optional)
Dydd Mawrth 19 Mawrth o 1.30pm tan 4.30pm yng Nghoed Pella. Dathlu awtistiaeth fel gwahaniaeth, nid diffyg.
start content
A hoffech wybod mwy am gefnogaeth leol i bobl awtistig?

A hoffech gael gwybodaeth am awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol eraill?

Dewch i’r Ystafell Arddangos yng Nghoed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn, LL29 7AZ ar ddydd Mawrth 19 Mawrth o 1.30pm tan 4.30pm. Mae croeso i chi ymuno â ni unrhyw bryd yn ystod y prynhawn.
  • Cwrdd â staff o Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
  • Dysgu am weithgareddau a chefnogaeth leol ar gyfer pobl awtistig
  • Cwrdd â staff a gwirfoddolwyr o sefydliadau a thimau lleol
  • Cyfle i weld y bws profiad realaeth awtistiaeth

Gwrando ar gyflwyniadau’r siaradwr gwadd am niwroamrywiaeth:
  • 1.30pm i 1.50pm: Bod yn niwroamrywiol
  • 2.30pm i 2.50pm: Rhianta Cadarnhaol
  • 3.30pm i 3.50pm: Niwroamrywiaeth yn y gweithle

Mae pob cyflwyniad yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb 5 munud.

Dewch draw i ddarganfod mwy!

Cysylltwch â jeni.andrews1@conwy.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiad hwn.
end content