Mae’r gwasanaeth, a elwir yn CONWY 85258 wedi cael ei lansio ers ddydd Llun 10 Mai i gyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.
Mae hwn yn wasanaeth am ddim, anhysbys ac ar gael unrhyw amser, ddydd neu nos, 7 diwrnod yr wythnos i unrhyw un, boed yn staff neu ddinasyddion.
Gyrrwch y gair CONWY at 85258 i gysylltu gyda gwirfoddolwr hyfforddedig a fydd yn anfon negeseuon yn ôl ac ymlaen ac yn gweithio gyda’r unigolyn ac yn eu cynorthwyo i gymryd y camau nesaf er mwyn teimlo’n well. Gallent helpu gydag amrywiaeth o faterion o straen, gorbryder ac iselder, i broblemau perthnasau a bwlio felly os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod neu’n gofalu amdanynt angen cymorth- cysylltwch â CONWY 85258.
Mae’r elusen yn elusen cenedlaethol yn y DU sy’n gallu cynnig gwasanaeth yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.