Mae camfanteisio'n rhywiol ar blant yn fath o gamdriniaeth rywiol sy’n cynnwys dylanwadu ar a gorfodi pobl ifanc dan 18 oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.
Gall unrhyw blentyn brofi camfanteisio rhywiol a gall hyn ddigwydd yn unrhyw le. Rydym yn annog pawb i feddwl, adnabod a chodi llais yn erbyn camdriniaeth. Os gwelwch chi rywbeth, dywedwch rywbeth.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol ffoniwch 999.
Os ydych chi’n gweld, neu’n amau fod plentyn sy’n byw yng Nghonwy yn cael ei gam-drin
cysylltwch â ni i rannu eich pryderon.Dysgwch fwy am
gadw eich teulu yn ddiogel rhag camdriniaeth rywiol.