Manylion y cwrs:
Mae deall anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma cynnar yn hanfodol i’w llwyddiant. Heb y wybodaeth hon, mae nifer o blant yn ei chael yn anodd setlo, teimlo’n ddigon diogel i allu cymryd risgiau ac i ymddiried yn y bobl o’u cwmpas ddigon i allu cyflawni a datblygu’n dda.
Weithiau mae angen i ni gymryd cam yn ôl a myfyrio ar brofiadau cynnar ein plentyn a pha effaith allai hynny ei chael nawr ar eu hymddygiad ym mhob sefyllfa – yn yr ysgol neu gartref.
Mae fideos ac adnoddau ar gael trwy’r cwrs ar-lein hwn a fydd yn rhoi hanfodion Theori Ymlyniad i chi a strategaethau i helpu a chefnogi’r plant a’r bobl ifanc rydych chi’n gofalu amdanynt. Os ydych wedi mynychu hyfforddiant ar ymlyniad a thrawma o’r blaen, defnyddiwch yr adnodd hwn fel adnodd gloywi.
Mae’r adnodd hwn a gynhyrchwyd gan Braveheart Training yn cymryd tua 2-3 awr i’w gwblhau.
I gael manylion mewngofnodi, cysylltwch â sc.training@conwy.gov.uk
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.