Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol plant yng Nghonwy, canfyddwch sut i gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi er mwyn gallu ychwanegu apiau Mind of My Own at eich pecyn gwaith.
Dyma gyflwyniad fideo byr iawn i apiau Mind Of My Own:
Beth yw Mind of My Own?
Mae Mind Of My Own yn creu apiau sy’n ei gwneud hi’n haws i blant a phobl ifanc fynegi eu barn ac i weithwyr ddangos tystiolaeth o'r farn honno. Mae dros 100 o sefydliadau eisoes yn defnyddio apiau Mind Of My Own yn llwyddiannus i ddangos tystiolaeth o farn y bobl ifanc sy'n defnyddio eu gwasanaethau.
Mae yna ddwy nodwedd – ap “One” ac “Express”. Mae ap One yn helpu pobl ifanc i gyfleu eu barn mewn ffordd sy’n gweddu iddyn nhw. Mae pobl ifanc yn creu eu cyfrif eu hunain ar yr ap One, y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais. Mae Express yn ap hygyrch i blant iau a phlant ag anghenion ychwanegol fynegi eu barn. Dim ond drwy gyfrif gweithiwr y gellir defnyddio ap Express.
Sut i ddefnyddio Mind of My Own?
Bydd Mind of my Own yn eich helpu yn eich gwaith gyda phobl ifanc mewn sawl ffordd!
- Ymweliad ar y gweill? Gofynnwch i’r person ifanc gwblhau’r senario “Mae fy ngweithiwr yn ymweld” ymlaen llaw.
- Dod i adnabod unigolyn ifanc newydd? Gofynnwch iddyn nhw gwblhau datganiad “Dyma fi” neu ddatganiad “Lles”.
- Paratowch ymlaen llaw ar gyfer adolygiad plant sy'n derbyn gofal neu gynhadledd amddiffyn plant, er mwyn sicrhau bod barn y plentyn yn cael ei chlywed.
- Gall pobl ifanc rannu eu newyddion da gyda chi.
Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud am Mind Of My Own?
“Mae siarad yn y ffordd yma gymaint haws i mi – mae’n chwyldroadol.”
Cara, 16, plentyn mewn angen
“Fe wnaeth i mi feddwl drosof fy hun. Ap da iawn ac yn hawdd iawn ei ddefnyddio.”
Becky, 15, mewn gofal
Sesiynau Hyfforddi
Os ydych chi'n newydd i Gonwy, neu os hoffech chi gael sesiwn gloywi, mae yna sesiynau hyfforddi misol ar gael i'ch helpu chi i ddefnyddio Mind of my Own.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
22/06/2022 |
9:50am cyrraedd 10.00am - 12.00pm |
TEAMS |
Amherthnasol |
STAFF Y CYNGOR |
21/07/2022 |
9:50am cyrraedd 10.00am - 12.00pm |
TEAMS |
Amherthnasol |
STAFF Y CYNGOR |
29/09/2022 |
9:50am cyrraedd 10.00am - 12.00pm |
TEAMS |
Amherthnasol |
STAFF Y CYNGOR |
27/10/2022 |
9:50am cyrraedd 10.00am - 12.00pm |
TEAMS |
Amherthnasol |
STAFF Y CYNGOR |
01/12/2022 |
9:50am cyrraedd 10.00am - 12.00pm |
TEAMS |
Amherthnasol |
STAFF Y CYNGOR |
26/01/2023 |
9:50am cyrraedd 10.00am - 12.00pm |
TEAMS |
Amherthnasol |
STAFF Y CYNGOR |
22/02/2023 |
9:50am cyrraedd 10.00am - 12.00pm |
TEAMS |
Amherthnasol |
STAFF Y CYNGOR |
23/03/2023 |
9:50am cyrraedd 10.00am - 12.00pm |
TEAMS |
Amherthnasol |
STAFF Y CYNGOR
|
Ble alla' i gael mwy o wybodaeth?
I gael mwy o wybodaeth am apiau Mind Of My Own, ewch i www.mindofmyown.org.uk.
Darllenwch y Safonau Ymarfer sy’n cefnogi defnydd Mind Of My Own, ac yn amlinellu’r hyn a ddisgwylir gan weithwyr a gofalwyr ar draws yr Awdurdod.
Dolenni allweddol
Dyma’r prif ddolenni y byddwch eu hangen i ddefnyddio Mind of my Own.
Awgrym: Crëwch eich nod tudalen eich hun, neu lwybr byr ar eich bwrdd gwaith i'ch tudalen Cyfrif Gweithiwr!
Cyfrifon Gweithwyr
Dyma lle gallwch chi ymarfer gyda’ch “Proffil Prawf”, a gallwch osod proffiliau ar gyfer eich pobl ifanc.
https://workers-demo.mindofmyown.org.uk/
Ap One
Dyma brif ap One. Gall pobl ifanc greu eu cyfrifon eu hunain.
https://one.mindofmyown.org.uk
Express
Ap Express, ar gyfer plant iau a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
https://express.mindofmyown.org.uk
Porth Gwasanaeth
Dyma lle mae staff cymorth busnes yn rheoli’r holl wybodaeth sy’n dod i mewn, ac yn anfon datganiadau ymlaen at y gweithwyr cywir.