Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyfathrebu Effeithiol


Summary (optional)
start content

Nodau ac amcanion y cwrs:

Fel Gweithiwr Gofal, rhaid i chi allu cyfathrebu’n effeithiol. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gyfathrebu gyda geiriau, heb eiriau ac ymddygiad. Mae'n edrych ar sut rydyn ni'n cyfathrebu, pa offer ac adnoddau sydd gennym ein hunain, ac offer a all ein cynorthwyo, yn ogystal â chyfrinachedd a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Manylion y cwrs:

Hyd y cwrs: 1 awr gan gynnwys Cwis Asesu

  1. Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
  2. Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
  3. Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk

Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.

end content