Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Codi Pryderon a Rhannu Pryderon


Summary (optional)
start content

Nodau ac amcanion y cwrs:

Fel Gweithiwr Gofal, eich blaenoriaeth yw hyrwyddo diogelwch a lles yr unigolion rydych chi'n eu cefnogi. Mae'r fideo hyfforddi hwn wedi'i gynllunio i roi'r hyder i chi mai rhannu pryder yw'r peth iawn i'w wneud. Bydd yn dangos i chi sut i godi pryder a beth i'w wneud os nad eir i’r afael â'r pryder yn briodol.

Manylion y cwrs:

Hyd y cwrs: 40 munud gan gynnwys Cwis Asesu

  1. Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
  2. Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
  3. Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk

Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.

end content