Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gofal Cartref 1: Egwyddorion Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn


Summary (optional)
start content

Nodau ac amcanion y cwrs:

Mae'r teitl hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer y rhai sy'n darparu gofal mewn lleoliadau Gofal Cartref, ac mae'n cyflwyno gofalwyr i'r gwerthoedd sy'n sail i ofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn.

Mae’n eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut y dylid adlewyrchu Egwyddorion Gofal yn eu harferion o ddydd i ddydd, drwy archwilio gwerthoedd Hunaniaeth, Hawliau, Dewis, Preifatrwydd, Annibyniaeth, Urddas, Parch a Phartneriaeth.

Mae’r pynciau a gwmpesir yn cynnwys:

  • Y 6C
  • Meithrin Perthnasau
  • Lles
  • Gwerthoedd sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
  • Hunaniaeth
  • Hawliau
  • Dewis
  • Preifatrwydd
  • Annibyniaeth
  • Urddas
  • Parch
  • Partneriaeth
  • Cynlluniau Gofal

Manylion y cwrs:

Hyd y cwrs: 1 awr gan gynnwys Cwis Asesu

  1. Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
  2. Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
  3. Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk

Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.

end content