Nodau ac amcanion y cwrs:
- Nod Diploma Gofal Iechyd a Chymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon – Lefel 2, yw sicrhau bod unigolion yn meddu ar y cymhwysedd galwedigaethol angenrheidiol i weithio mewn rolau gofal iechyd a chymdeithasol penodedig.
- Bydd ennill y cymhwyster hwn, a gydnabyddir yn genedlaethol, yn profi y gallwch ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol o safon ofynnol.
- Bydd yn sicrhau eich bod yn rhoi gofal o safon ragorol a bod gennych ddealltwriaeth glir o’ch rôl a’ch cyfrifoldebau penodol.
- Bydd yn creu amgylchedd diogel ac iach i chi a’r rhai yr ydych yn gofalu amdanynt ac yn cydnabod eich cyraeddiadau
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd arno, yna cysylltwch â Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.