Manylion y cwrs:
Mae’r sesiynau hyn yn cael eu darparu ar-lein dros Zoom. Pe baech chi am fynychu sesiwn wyneb i wyneb, gweler fanylion yma:
Diogelu Sylfaenol Cymru Gyfan – SESIYNAU WYNEB I WYNEB - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda plant, pobl ifanc a/neu oedolion mewn perygl, sydd heb fod ar Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Ddiogelwch i Gymru Gyfan. Mae angen dod ar y cwrs hwn o fewn 3 mis o gychwyn yn y swydd.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
11 Awst 2022 |
9:30am - 1:00pm |
Zoom |
Datblygu'r Gweithlu a Dysgu |
Gwasanaethau Targed – Pob Gwasanaeth
Grŵp Targed – Y rhai sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda phlant, pobl ifanc a/neu oedolion mewn perygl sydd heb fod ar Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Sylfaenol o Ddiogelu i Gymru Gyfan o'r blaen. |
26 Hydref 2022 |

14 Rhagfyr 2022 |

28 Chwefror 2023 |

Nodau ac amcanion y cwrs:
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi cyfle i’r rhai sydd arno:
- weld eu rôl eu hunain o safbwynt diogelu oedolion, plant a phobl ifanc rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- deall sut mae unigolion yn cael eu gwarchod rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- gwybod sut mae adnabod gwahanol fathau o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod
- gwybod am y newidiadau diweddar i ddiogelu o ganlyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd ar y cwrs cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.