Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyfforddiant Oedolyn Priodol


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp targed
20 Mawrth 2019 9:15am cyrraedd ar gyfer te / coffi a chofrestru
9:30am - 4:30pm
Coed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn, LL29 7AZ Sally Plumb Gwasanaethau Targed: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cefnogi Teuluoedd ac Ymyriadau, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, TDA. 

Grŵp Targed: Staff a Gofalwyr y gelwir arnynt i gyflawni rôl Unigolyn   Priodol naill ai ar gyfer unigolyn sydd yn eu gofal neu fel gweithiwr proffesiynol hyfforddedig. Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n newydd i’r rôl o Oedolyn Priodol neu sydd angen cwrs gloywi.
   
10 Gorffennaf 2019 9:15am cyrraedd ar gyfer te / coffi a chofrestru
9:30am - 4:30pm
Coed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn, LL29 7AZ Sally Plumb Gwasanaethau Targed: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cefnogi Teuluoedd ac Ymyriadau, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, TDA. 
    
Grŵp Targed: Staff a Gofalwyr y gelwir arnynt i gyflawni rôl Unigolyn   Priodol naill ai ar gyfer unigolyn sydd yn eu gofal neu fel gweithiwr proffesiynol hyfforddedig. Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n newydd i’r rôl o Oedolyn Priodol neu sydd angen cwrs gloywi.
   
14 Tachwedd 2019 9:15am cyrraedd ar gyfer te / coffi a chofrestru
9:30am - 4:30pm
Coed Pella, Ffordd Conwy, Bae Colwyn, LL29 7AZ Sally Plumb Gwasanaethau Targed: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cefnogi Teuluoedd ac Ymyriadau, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, TDA. 
    
Grŵp Targed: Staff a Gofalwyr y gelwir arnynt i gyflawni rôl Unigolyn   Priodol naill ai ar gyfer unigolyn sydd yn eu gofal neu fel gweithiwr proffesiynol hyfforddedig. Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n newydd i’r rôl o Oedolyn Priodol neu sydd angen cwrs gloywi.
   

 

Nod y Cwrs

Ymgyfarwyddo staff a gofalwyr â goblygiadau’r rôl Oedolyn Priodol fel sy’n ofynnol yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a’r Codau Ymarfer cysylltiedig mewn perthynas â chadw, cwestiynu ac adnabod unigolyn ag anhwylder meddwl neu unigolyn ag anabledd dysgu yn nalfa’r heddlu. Cymhwyso’r wybodaeth wrth weithredu fel Oedolyn Priodol ar gyfer pobl ifanc.

Amcanion y Cwrs

Erbyn diwedd yr hyfforddiant, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu:

  • nodi gofynion deddfwriaethol Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol ac fel maent yn berthnasol i rôl yr Oedolyn Priodol
  • rhestru dyletswyddau’r Oedolyn Priodol
  • arddangos gwybodaeth am yr egwyddorion sy’n rhan o gefnogi unigolyn ag anhwylder meddwl mewn cyfweliad
  • cymhwyso’r hyn a ddysgwyd wrth weithredu fel Oedolyn Priodol ar gyfer pobl ifanc
  • deall sut all yr wybodaeth uchod gael ei rhoi ar waith ynghyd â’r goblygiadau polisi a gweithdrefnau lle bo hynny’n briodol.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content