Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
27 Tachwedd 2019 |
9:15am cyrraedd ar gyfer te / coffi a chofrestru 9:30am - 12:30pm |
Ystafell 027, Coed Pella, Ffordd Conway, Bae Colwyn, LL29 7AZ |
Barbara Lyons |
Gwasanaethau Targed Gofalwyr Maeth Grŵp Targed Gofalwyr Maeth a Gofalwyr Person Cysylltiedig |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Mae plant mewn gofal maeth yn aml yn cario ymddygiad ac ymatebion o ganlyniad i ymglymiad aflonyddgar a thrawma a thrais cynnar cymhleth. Yn aml gall rianta’r plant hyn arwain at drosglwyddo’r trawma i’r system deulu newydd a gall ysgogi ymatebion o wylltineb ac anobaith.
Bydd cyfranogwyr yn:
- Deall beth yw trawma eilaidd/dros eraill a sut mae’n gweithio
- Adnabod yr arwyddion yn eich hunain ac eraill
- Gallu normaleiddio ymatebion straen personol a lleihau’r cywilydd gall rhai gofalwyr deimlo am ddioddef y canlyniadau hyn o’u gwaith
- Ymchwilio strategaethau i helpu lleihau bregusrwydd neu leihau'r effaith
- Ystyried sut i weithredu’r 5 ffordd at les yn eu bywydau eu hunain
Hyd y Cwrs: 3awr
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.