Gofal Cartref
Os bydd unigolyn yn penderfynu canslo eu cymorth gan y byddai’n well ganddynt dderbyn gofal gan eu teulu ar hyn o bryd, rhowch wybod i ni fel bod rhywun arall yn gallu manteisio ar y cymorth hwn.
Rydym yn gofyn i chi anfon e-bost atom ar tim.monitro@conwy.gov.uk gan nodi enw, dyddiad geni, rhif adnabod PARIS a chyfeiriad yr unigolyn sydd wedi rhoi gwybod i’r asiantaeth eu bod yn dymuno canslo eu galwadau cartrefi gofal.
Bydd taliadau cadw yn cael eu talu’n unol â threfniadau presennol eu contract (h.y. tâl cadw 5 diwrnod neu bythefnos ar 50%). Fodd bynnag, ni allwn sicrhau y bydd yr unigolyn yn gallu derbyn gwasanaeth gan yr un asiantaeth eto, a gall y broses o ailgomisiynu gymryd amser hir.