Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Canllaw Cartrefi Gofal a Byw â Chymorth


Summary (optional)
start content

Gweler ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru am ymweld:

Gweler y canllawiau cenedlaethol diweddaraf (16 Mehefin 2020) o ran masgiau wyneb ac ymweliadau i gartrefi gofal:

Gweler y canllawiau cenedlaethol diweddaraf (6 Mehefin 2020) ar gyfer ymweliadau cartrefi gofal;

Gweler y canllawiau cenedlaethol diweddaraf (6 Mehefin 2020) ar gyfer profi mewn cartrefi gofal:

Gweler y canllaw cenedlaethol diweddaraf ar reoli heintiau mewn lleoliadau preswyl (Saesneg yn unig):

Gweler y canllawiau cenedlaethol diweddar ar gyfer cartrefi gofal:

Gweler y canllawiau cenedlaethol diweddar ar gyfer byw â chymorth:

 

Byddwch wedi cael llythyr gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth hanfodol am gapasiti ar draws y sector cartrefi gofal yng Nghymru.  Bydd y wybodaeth ar gael i gomisiynwyr a thimau gadael yr ysbyty.

Gellir cael mynediad i’r system trwy https://www.dewis.cymru/

Llythyr i Ddarparwyr Cartrefi Gofal (PDF)

Os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch chi ar er mwyn cofrestru ac ychwanegu eich cynnwys ar DEWIS, ffoniwch y Tîm Lles Cymunedol ar 01492 577449.

Mae gan y tîm hefyd ganllawiau cam wrth gam i gefnogi chi i gofrestru a llwytho eich cynnwys ar DEWIS, y gallwn ei anfon atoch trwy e-bost.

 

Cynnal Gweithgareddau ar gyfer Oedolion Hŷn

Canllaw ar gyfer adnoddau ar-lein i’r sawl sy’n darparu gofal i bobl gyda dementia (PDF)

Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn wynebu heriau sylweddol yn ystod y pandemig hwn, sy’n golygu ei fod yn hanfodol ein bod yn cefnogi’r broses o ryddhau cleifion yn effeithiol.   Hoffem amlinellu’r cyngor yr ydym yn ei roi i Gartrefi Gofal ac argymell dull safonol ar draws Gogledd Cymru er mwyn diogelu cleifion, staff a’r cyhoedd ehangach. Wrth i’r cyngor cenedlaethol newid, byddwn yn gweithio i sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.  

  • Dylid rheoli preswylwyr mewn Cartrefi Gofal yn unol â’r cyngor a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Os bydd claf yn ansymptomatig, gellir eu trosglwyddo i Gartref Gofal heb gymryd unrhyw ragofalon ychwanegol nac asesiadau pellach.     
  • Os yw preswylydd yn datblygu symptomau, byddant yn derbyn gofal yn unol â’r trefniadau atal a rheoli heintiau sydd wedi’u nodi yng nghanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

Bydd profion cartref yn dechrau cael eu cynnal ar gleifion sy’n dangos symptomau mewn cartrefi gofal ar 19 Mawrth. Os bydd claf yn sâl gyda thymheredd uchel a/neu dagiad parhaus, cysylltwch ag 111 yn y lle cyntaf, a fydd yn gallu darparu cyngor a chanllawiau i chi.

  • Dylai preswylydd Cartref Gofal presennol sydd wedi treulio cyfnod yn yr ysbyty ddychwelyd i’r Cartref cyn gynted ag y mae hynny’n briodol yn glinigol. 
  • Dylai unrhyw gyswllt cymdeithasol/cyswllt â theuluoedd gael ei wneud dros y ffôn/Skype/cyfryngau cymdeithasol lle bo hynny’n bosibl i sicrhau cyn lleied o ymwelwyr â phosibl yn y Cartref Gofal. Rhannwch y canllawiau gyda’ch teulu a’ch ffrindiau os gwelwch yn dda.
  • Gweler canllawiau diweddaraf Conwy mewn perthynas â DOLS (Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid) yn ogystal.

Sefyllfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Amddifadedd Rhyddid (PDF)

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content