Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Datblygu ac Addysgu Gweithlu Information For Providers Moddion Cartref – Neges gan Sally Mcdonald, Nyrs Rheoli Meddyginiaethau Arbenigol - BIPBC

Moddion Cartref – Neges gan Sally Mcdonald, Nyrs Rheoli Meddyginiaethau Arbenigol - BIPBC


Summary (optional)
start content

Er mwyn paratoi ar gyfer lledaeniad posibl y pandemig COVID-19, rwy’n eich cynghori i fabwysiadu polisi moddion cartref o fewn eich cartref gofal i’ch preswylwyr os nad oes gennych chi un eisoes. Bydd hyn yn lleihau’r angen am Feddyg, Uwch Ymarferydd Nyrsio neu Ragnodwr Anfeddygol i ymweld â’r cartref, a byddwch yn gallu gweinyddu meddyginiaethau penodol heb iddynt gael eu rhagnodi. Gweler y canllaw sydd ynghlwm: ‘Care home Homely remedies guide: For local adaptation to fit within individual care home medication policies and also a Homely remedies consent form and list of approved medications you can hold within the home.’

Ar ôl ei ddarllen, byddwn yn eich cynghori i brynu stoc o’r eitemau ar y rhestr i’w cadw yn y cartref a’u defnyddio yn ôl y gofyn gan ddilyn y cyngor, gellir eu cofnodi ar siartiau MAR y preswylwyr.

CANLLAWIAU NICE AR GYFER RHEOLI MEDDYGINIAETHAU MEWN CARTREFI GOFAL

1.16 Staff cartrefi gofal sy’n rhoi cynnyrch nad ydynt ar bresgripsiwn a chynnyrch dros y cownter i breswylwyr (moddion cartref)

1.16.1 Fe ddylai darparwyr cartrefi gofal sy’n cynnig meddyginiaethau nad ydynt ar bresgripsiwn neu gynnyrch arall dros y cownter (moddion cartref) er mwyn ymdrin â mân anhwylderau ystyried cael proses ar gyfer moddion cartref, sy’n cynnwys y canlynol:

  • enw’r feddyginiaeth neu’r cynnyrch a’r rheswm dros ei ddefnyddio
  • pa breswylwyr na ddylid rhoi meddyginiaethau neu gynnyrch penodol iddynt (er enghraifft, ni ddylid defnyddio paracetamol fel modd cartref os yw’r preswylydd eisoes yn derbyn paracetamol ar bresgripsiwn)
  • y dos a’r amlder
  • uchafswm y dos dyddiol
  • pan fo gofyn i unrhyw feddyginiaeth a weinyddir gael ei gofnodi, megis ar gofnodion gweinyddu meddyginiaethau
  • am faint y dylid defnyddio’r feddyginiaeth neu’r cynnyrch cyn cyfeirio’r preswylydd at feddyg teulu.

1.16.2  Dylid enwi staff cartrefi gofal sy’n rhoi meddyginiaethau nad ydynt ar bresgripsiwn neu gynnyrch arall dros y cownter (moddion cartref) i breswylwyr yn y broses moddion cartref. Dylent lofnodi’r broses i gadarnhau fod ganddynt y sgiliau i weinyddu’r moddion cartref a chydnabod y byddant yn gyfrifol am eu gweithredoedd.

Meddyginiaethau cartrefol (Ffeil PDF)

Ffurflen caniatâd meddyginiaethau cartrefol (Word)

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content