Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gweithwyr Allweddol


Summary (optional)
start content

Gweler y canllaw ar sut i wneud atgyfeiriadau ar gyfer profi am Covid-19 ar gyfer:

  •  Staff sy’n dangos symptomau o Covid-19 (o fewn 4 diwrnod o ddangos symptomau)
  •  Staff sy’n hunan-ynysu a chanddynt aelod o’u haelwyd sy’n dangos symptomau o Covid-19 (o fewn 4 diwrnod o   dangos symptomau) ac yn 16 mlwydd oed a throsodd.

Bydd o gymorth i nodi pa unigolion i'w blaenoriaethau ar gyfer profi am Covid-19. Mae cyfyngiad ar argaeledd y profion, ac mae'n bwysig sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu'n addas ac yn deg.

Ffurflen Atgyfeirio- Profi (Word)

Rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i gytuno ar system a fydd yn golygu na chewch eich stopio wrth deithio ar gyfer gwaith.  Yn y cyfamser, sicrhewch fod eich cerdyn adnabod gennych wrth deithio i’r gwaith/cyflawni rolau allweddol rhag ofn i chi gael eich herio.

Rydym yn datblygu Hwb Gweithlu ar hyn o bryd lle rydym yn edrych ar adleoli ein staff i’n gwasanaethau mewnol ac i wasanaethau a gomisiynir.

Rydym yn gweithio gyda’r adran Addysg ar hyn o bryd i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â darpariaeth Gofal Plant ddechrau’r wythnos nesaf. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r diffiniadau canlynol ar gyfer Gweithwyr Allweddol:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, feddygon, nyrsys, bydwragedd, parafeddygon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal, a staff rheng flaen arall ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwirfoddolwyr; y staff cymorth ac arbenigol sydd eu hangen i gynnal sector iechyd a gofal cymdeithasol y DU; rheiny sy’n gweithio fel rhan o’r gadwyn gyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynhyrchwyr a dosbarthwyr meddyginiaeth ac offer diogelwch meddygol a phersonol.  

Addysg a gofal plant
Mae hyn yn cynnwys staff meithrinfeydd a staff addysgu, gweithwyr cymdeithasol a’r gweithwyr proffesiynol addysg arbenigol hynny y mae’n rhaid iddynt barhau’n weithgar wrth ymateb i COVID-19 er mwyn i’r dull hwn fod yn effeithiol.

Gwasanaeth Cyhoeddus Allweddol
Mae hyn yn cynnwys y rheiny sy’n hanfodol i gynnal y system gyfiawnder, staff crefyddol, elusennau a gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol, y rheiny sy’n gyfrifol am reoli’r ymadawedig, a newyddiadurwyr a darlledwyr sy’n darparu gwasanaeth darlledu cyhoeddus.

Llywodraeth leol a chenedlaethol
Mae hyn ond yn cynnwys y swyddi gweinyddol hynny sy’n hanfodol i’r ymateb i COVID-19 neu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel talu budd-daliadau, gan gynnwys asiantaethau’r llywodraeth a chyrff hyd-braich.

Bwyd a nwyddau hanfodol eraill
Mae hyn yn cynnwys y rheiny sydd ynghlwm â chynhyrchu bwyd, prosesu, dosbarthu, gwerthu a chludo, yn ogystal â’r rheiny sy’n hanfodol i ddarparu nwyddau allweddol eraill (er enghraifft, meddyginiaethau hylendid a milfeddygol.)

Diogelwch cyhoeddus a diogelwch cenedlaethol
Mae hyn yn cynnwys yr heddlu a staff cymorth, dinasyddion y Weinyddiaeth Amddiffyn, personél contractwyr a’r lluoedd arfog (y rheiny sy’n hanfodol i gyflawni tasgau amddiffyn a diogelwch gwladol allweddol ac i’r ymateb i’r pandemig COVID-19), gweithwyr y gwasanaeth tân ac achub (gan gynnwys staff cymorth), staff yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y rheiny sy’n cynnal diogelwch ar y ffin, staff carchardai a’r gwasanaeth prawf, a rolau eraill sy’n berthnasol i ddiogelwch gwladol, gan gynnwys y rheiny sydd dramor.

Cludiant
Mae hyn yn cynnwys y rheiny a fydd yn cadw dulliau cludiant i fynd drwy’r awyr, ar ddŵr, ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd, a hynny i deithwyr a nwyddau, yn ystod yr ymateb i COVID-19, gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio ar systemau cludiant y mae cadwyni cyflenwi’n eu defnyddio.

Gwasanaethau ariannol, cyfleustodau a chyfathrebu
Mae hyn yn cynnwys staff sydd eu hangen i barhau i ddarparu gwasanaethau ariannol hanfodol (gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, weithwyr mewn banciau, cymdeithasau adeiladu a’r marchnadoedd ariannol), y sectorau olew, nwy, trydan a dŵr (gan gynnwys carthffosiaeth), y sector technoleg gwybodaeth a seilwaith data, a chyflenwadau diwydiant cynradd yn ystod yr ymateb i COVID-19, yn ogystal â staff allweddol sy’n gweithio yn y sectorau niwclear sifil, cemegau, telathrebu (gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i weithrediadau’r rhwydwaith, peirianneg maes, staff canolfannau galwadau, seilwaith TG a data, a gwasanaethau critigol 999 ac 111), gwasanaethau post a dosbarthu, darparwyr taliadau a sectorau gwaredu gwastraff.

Os bydd gweithwyr yn meddwl eu bod yn perthyn i’r categorïau hanfodol uchod, dylent gadarnhau bod eu rôl benodol yn angenrheidiol er mwyn parhau â’r gwasanaeth cyhoeddus hanfodol hwn.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content