Ni fyddwn yn ymgymryd ag ymweliadau monitro am gyfnod dros dro oni bai bod gennym bryderon sylweddol yn ymwneud â diogelwch neu ansawdd gofal.
Mae’n bwysig ein bod yn cyfathrebu’n gyson, felly rydym wedi dynodi Swyddog Cefnogi Partneriaeth ar gyfer bob darparwr. Diolch i chi am yr holl wybodaeth rydych wedi’i darparu i ni. Mae wedi rhoi trosolwg da iawn i ni o’r pryderon a’r problemau sy’n bwysig i chi. Rydym wedi bod yn rhannu’r wybodaeth hon â Llywodraeth Cymru.
Bydd y Swyddogion Partneriaeth yn parhau i gysylltu â chi yn aml yn ystod y cam hwn er mwyn rhoi cyfle i chi drafod eich pryderon ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Bydd yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Gwener am y tro. Dylid defnyddio’r rhif argyfwng tu allan i oriau gwaith ar benwythnosau a gyda’r nos: 0300 123 6688.
Rydym hefyd yn trefnu telegynadleddau er mwyn rhoi cyfle i chi drafod eich pryderon.
Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr iechyd.
Cofiwch y gallwch hefyd anfon unrhyw bryderon at sc.commissioning@conwy.gov.uk, byddwn yn defnyddio hwn a’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu â’r Swyddogion Cefnogi Partneriaeth i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf.