Gweler y canllawiau diweddaraf ar ddefnyddio PPE mewn tymheredd uchel
Fel byddwch yn ymwybodol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r Canllaw Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar weithredu a chyngor atodol dydd Iau diwethaf. 9 Ebrill, 2020. Y newid allweddol i’r canllaw hwn yw'r ychwanegiad ar dabl 4: “ystyriaethau ychwanegol, yn ychwanegol at yr atal haint sylfaenol a rhagofalon rheoli, lle mae trosglwyddiad parhaus o Covid-19."
Rydym wedi diweddaru’r canllaw a’r ffurflen gais i adlewyrchu'r newidiadau hyn y mae gofyn i chi eu cwblhau i wneud cais am ragor o PPE, bydd hwn nawr yn gais sefydliadol yn hytrach na chais ar gyfer unigolyn. Fel y gwelwch o’r ffurflen, bydd angen i chi ddeall eich asesiad risg ar gyfer masgiau a gogls sesiynol ac untro.
Dychwelwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau atom erbyn 10am, dydd Llun, bob wythnos.
Yng nghyngor atodol Iechyd Cyhoeddus Cymru mae poster gweledol ar gyfer gwisgo a thynnu PPE, sicrhewch fod eich staff yn dilyn hyn.
Mae’r setiau hyn o ganllawiau yn hollbwysig i leihau lledaeniad Covid-19 ac mae’n hanfodol eich bod yn cymryd yr amser i ddeall, gweithredu a rhoi asesiadau risg ar waith ar gyfer 'rhain yn eich sefydliad.
Gwybodaeth am ganllawiau a cheisiadau Conwy:
Canllaw ar gyfer mynediad at PPE (Word)
PPE Ffurflen Ymholiad (Word)
Canllawiau:
Llywodraeth- COVID-19 PPE (Linc Gwe)
Canllawiau Penodol:
PPE a argymhellir (Linc Gwe)