Mae diogelu yn fater i bawb – Rydym yn gofyn i chi ofalu am eich gilydd er mwyn helpu’r rhai a allai fod mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod. Mae’r neges hon yn berthnasol bob amser, ond nawr fwy nag erioed, mae pobl o bob oed angen eu hamddiffyn.
Rydym mewn cyfnod eithriadol o ganlyniad i’r Coronafeirws, a chadw pellter cymdeithasol a hunanynysu yw un o’r negeseuon a chyngor allweddol sy’n cael eu darparu. Er bydd hyn yn sicr o helpu gydag atal lledaeniad y feirws, yn anffodus, bydd hyn yn golygu y gallai plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl yng Nghonwy fod mewn rhagor o berygl o gamdriniaeth ac esgeulustod o bosibl.
Gofalwch am ffrindiau, teulu a chymdogion ac os byddwch yn gweld unrhyw arwyddion o gwbl sy’n gwneud i chi feddwl y gallent fod yn profi unrhyw fath o gamdriniaeth neu esgeulustod, rhowch wybod am eich pryderon.
Os oes gennych bryderon am blant, ffoniwch:
Yn ystod oriau swyddfa 01492 575111
Tu allan i oriau swyddfa 0300 123 3079
Os oes gennych bryderon am oedolyn, ffoniwch:
Yn ystod oriau swyddfa 0300 456111
Tu allan i oriau swyddfa 0300 123 3079
E-bost: lles@conwy.gov.uk