Mewn ymateb i wahardd pob hyfforddiant wyneb yn wyneb mae Datblygu a Dysgu’r Gweithlu Conwy wedi rhoi Cynllun Dysgu ynghyd ar gyfer staff newydd y byddwch yn eu cyflogi. Mae’r Cynllun Dysgu yn rhoi trosolwg o’r egwyddorion, gwerthoedd a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen wrth roi gofal ymarferol neu wyneb yn wyneb i’r unigolion mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.
Mae’r sesiynau hyn i gyd yn fodiwlau ar-lein sy’n cynnwys dogfen i’w arwyddo gan yr unigolyn a’r Rheolwr Atebol er mwyn cadarnhau bod y gweithiwr wedi cwblhau’r holl fodiwlau dysgu ac wedi deall y cynnwys.
Mae’r modiwlau yn y Cynllun Dysgu angen cael eu cwblhau gan holl staff gofal newydd, ond unwaith i’r cyfyngiadau gael eu codi, bydd angen i weithwyr newydd yn y maes gofal gwblhau hyfforddiant mwy cynhwysfawr.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth neu i gael mynediad i’r Modiwlau Dysgu, cysylltwch â sc.training@conwy.gov.uk
Cynllun Hyfforddi Darparwyr Gofal (Ffeil PDF)