Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gofalwn Cymru


Summary (optional)
start content

Mae Gofalwn Cymru yn ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant gan ddenu mwy o bobl gyda'r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn swyddi gofal gyda phlant ac oedolion.

Os ydych yn hoffi gweithio gyda phobl a bod gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau pob dydd, gall gyrfa mewn maes gofal fod yn berffaith i chi. Os oes gennych ymagwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, beth am herio’ch hun gyda swydd sydd yn amrywio bob dydd, ai nawr yw’r amser i chi ddechrau’ch gyrfa newydd?

Gallwch dderbyn unrhyw hyfforddiant ac ennill unrhyw gymwysterau sydd eu hangen arnoch chi yn y swydd, gyda phob math o gyfleoedd i weithio’n hyblyg a fydd yn eich galluogi i drefnu gofalu am eraill o’ch cwmpas chi a’ch teulu. Os ydych chi’n meddwl am yrfa yn y maes gofal, ewch i wefan Gofalwn Cymru i ddod o hyd i ddarparwyr lleol sy’n chwilio am bobl fel chi.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content