Rydym yn datblygu cynllun gweithlu ar hyn o bryd, ac mae’r wybodaeth rydych wedi’i darparu i ni yn ein helpu i lunio’r cynllun hwn. Mae’n bwysig ein bod yn dal i fyny â’r wybodaeth ddiweddaraf am y pwysau ar weithluoedd. Mae ein gweithlu’n hanfodol ar gyfer darparu’r gofal parhaus sydd ei angen, ac mae’n rhaid i ni weithio ar y cyd ar hyn. Rydym yn disgwyl prinder staff.
Mae newidiadau dros dro yn cael eu gwneud i ganllawiau gwirio prawf adnabod o ganlyniad i’r Coronafeirws. Bydd y newidiadau’n galluogi i:
- ddogfennau adnabod gael eu gweld dros gyswllt fideo
- luniau sydd wedi’u sganio gael eu defnyddio cyn i wiriad y gwasanaeth datgelu a gwahardd gael ei gyflwyno
Daeth y newid i rym ar 19 Mawrth 2020. Gweler y ddolen am fanylion llawn
https://www.gov.uk/government/news/covid-19-changes-to-standard-and-enhanced-id-checking-guidelines