Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
12 Gorffennaf 2022 |
12:00 – 12:45 |
Microsoft Teams |
Dr Ceryl Teleri Davies Darlithydd Gwaith Cymdeithasol, Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd |
Gwasanaethau wedi'u Targedu – Lles Cymunedol; Anabledd; Cymorth ac Ymyrraeth i Deuluoedd; Plant sy'n Derbyn Gofal; Pobl Hŷn a HSW; Safonau Ansawdd; Pobl agored i niwed; Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid; Heddlu/Addysg/Iechyd; Gofalwyr Maeth; Gwasanaethau a Gomisiynir Grŵp Targed – Aelodau staff rheng flaen ar draws Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Teuluol a staff Aml-Asiantaeth gan gynnwys iechyd, yr Heddlu, Addysg |
13 Gorffennaf 2022 |
09:00 – 09:45 |

20 Gorffennaf 2022 |
16:00 – 16:45 |

Nodau ac amcanion y cwrs:
Nod:
Bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Nodi ac archwilio natur achosion o gam-drin gan blentyn i riant / gofalwr fel problem gymhleth y teulu cyfan.
- Archwilio’r mater hwn o safbwyntiau rhieni / gofalwyr sy’n profi’r math hwn o achosion o gam-drin.
- Archwilio’r rhwystrau i rieni / gofalwyr o ran nodi, adrodd a mynd i’r afael â’r math hwn o gam-drin.
- Archwilio’r rhwystrau ar sail aml-asiantaeth wrth weithio i fynd i’r afael â’r math hwn o gam-drin.
- Archwilio arwyddion, symptomau ac effaith y math hwn o gam-drin.
- Archwilio’n fras y strategaethau a’r arferion da wrth weithio gyda theuluoedd i fynd i’r afael â’r math hwn o gam-drin.
Amcanion:
- Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth sy'n canolbwyntio ar archwilio materion polisi, ymchwil ac ymarfer cyfoes.
- Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi gwybodaeth ac yn trafod datblygiadau mewn arferion cyfredol yng Nghonwy.
- Archwilio'r broblem hon o safbwynt y teulu cyfan.
- Archwilio syniadau ac arferion ar sail aml-asiantaeth.
- Annog cyfranogwyr i fod yn fwy hyblyg yn eu hymagweddau at deuluoedd sy'n profi'r achosion o gam-drin 'cudd' a chymhleth hwn.
Mae'r hyfforddiant hwn yn rhagofyniad i fynychu'r hyfforddiant ymyrraeth arbenigol
Hyfforddwr: Mae gan Dr Ceryl Teleri Davies brofiad helaeth yn seiliedig ar ymarfer ar draws lleoliadau gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol. Mae’n cynnwys gwaith ar sail aml-asiantaeth i gefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn ar lefel ymarferwyr, rheolwyr canol ac uwch reolwyr. Mae maes arbenigol Ceryl yn canolbwyntio ar archwilio natur perthnasoedd agos pobl ifanc, cam-drin domestig, perthnasoedd iach ac achosion o gam-drin gan blentyn i riant / gofalwr. Mae Ceryl wedi addysgu ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig ar gyfer gradd Addysg, y Gyfraith, Troseddeg a Gwaith Cymdeithasol. Mae Ceryl yn gweithio fel Darlithydd Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, Gogledd Cymru ar hyn o bryd.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.