Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

AC Education: Hylendid Bwyd


Summary (optional)
start content

Adnodd hyfforddi ar-lein yw AC Education sydd ar gael i reolwyr sefydliadau ac asiantaethau gofal ei ddefnyddio ar gyfrifiaduron a gliniaduron yn fewnol, fel ffynhonnell ychwanegol o hyfforddiant.

Un o fanteision cynnig cyrsiau ar-lein yw y gallwch chi benderfynu ar yr amser gorau i’ch sefydliad gynnig hyfforddiant i’ch staff.

Mae AC Education wedi datblygu modiwl Hylendid Bwyd allai fod o fudd i chi – gallwch ddefnyddio’r modiwl mewn un sesiwn neu ei ymestyn dros nifer o ddyddiau neu wythnosau.

Mae’r modiwl yn cynnwys Deilliannau Dysgu, Llyfr Gwaith, prawf diwedd cwrs a’r dewis i argraffu rhannau o’r deunyddiau cwrs, yn ogystal â dolenni cyswllt i wefannau buddiol.

Drwy gwblhau’r cwrs byddwch chi a’ch staff yn gallu:

  • Deall pwysigrwydd hylendid bwyd
  • Adnabod y 4 math cyffredin o berygl bwyd
  • Adnabod achosion, ffynonellau a symptomau gwenwyn bwyd
  • Dysgu am gyfraith diogelwch bwyd
  • Deall peryglon halogiad a sut i’w rheoli
  • Adnabod mathau a ffynonellau halogiad
  • Deall sut i baratoi, storio a gweini bwyd

Os hoffech chi gael mynediad at fodiwl Hylendid Bwyd AC Education, anfonwch neges e-bost at sc.training@conwy.gov.uk, er mwyn gallu trefnu i’r cwrs gael ei ddyrannu i chi.

end content