Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhoi Meddyginiaeth ym maes Gofal Cymdeithasol via ZOOM


Summary (optional)
 
start content

Manylion y cwrs

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrGrŵp targed
2 Awst 2023 09:30 – 13:00 ZOOM Tim Dallinger (Social Care Consultants Ltd) Gwasanaethau Targed –  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed –  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal.
5 Medi 2023 09:30 – 13:00 ZOOM Tim Dallinger (Social Care Consultants Ltd) Gwasanaethau Targed –  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed –  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal.
6 Hydref 2023 09:30 – 13:00 ZOOM Tim Dallinger (Social Care Consultants Ltd) Gwasanaethau Targed –  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed –  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal.
7 Tachwedd 2023 09:30 – 13:00 ZOOM Tim Dallinger (Social Care Consultants Ltd) Gwasanaethau Targed –  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed –  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal.
7 Rhagfyr 2023 09:30 – 13:00 ZOOM Tim Dallinger (Social Care Consultants Ltd) Gwasanaethau Targed –  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed –  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal.
11 Ionawr 2024 09:30 – 13:00 ZOOM Tim Dallinger (Social Care Consultants Ltd) Gwasanaethau Targed –  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed –  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal.
7 Chwefror 2024 09:30 – 13:00 ZOOM Tim Dallinger (Social Care Consultants Ltd) Gwasanaethau Targed –  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed –  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal.
13 Mawrth 2024 09:30 – 13:00 ZOOM Tim Dallinger (Social Care Consultants Ltd) Gwasanaethau Targed –  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Grŵp Targed –  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal.


Nod y cwrs:

Mae’r cyrsiau wedi’u dylunio er mwyn hyrwyddo egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 ac yn cynnwys:

  • Llais a rheolaeth yr unigolyn
  • Atal ac ymyrryd yn fuan – yn cynnwys adnabod arwyddion a symptomau gwallau, sgil effeithiau a lleihad mewn effeithiolrwydd
  • Lles – cefnogi pobl i gyflawni lles eu hunain
  • Cydgynhyrchiad – annog unigolyn i gymryd mwy o ran wrth weinyddu eu meddyginiaeth

Mae’r cwrs hefyd wedi bod dylunio er mwyn sicrhau cydymffurfiad gyda RISCA 2016 a Rheoliadau Gwasanaeth Rheoleiddiedig 2017 a ddaeth i rym ar 02.04.18.

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar bolisi meddyginiaeth bresennol yn unol â Chyngor Conwy

Adnabod deddfwriaeth allweddol ynglŷn â rheoli meddyginiaeth:

  • Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
  • Canllawiau statudol ar fodloni’r rheoliadau
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • Rheoli meddyginiaeth mewn cartrefi gofal NICE [SC1]
  • Rheoli meddyginiaethau ar gyfer oedolion sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn y gymuned NICE [NG67]

Diffinio termau allweddol:

  • Annog
  • Cynorthwyo
  • Gweinyddu

Disgrifio pa wybodaeth ddylai fod ar:

  • Bresgripsiwn
  • Label meddyginiaeth
  • Siart Cofnod Rhoi Meddyginiaethau

Disgrifio sut i gefnogi pobl gyda meddyginiaeth drwy:

  • Annog
  • Cynorthwyo
  • Gweinyddu

Amcanion y cwrs:

  • Diffinio'r term “meddyginiaeth” ac egluro mathau o feddyginiaeth a sut maent yn gweithio
  • Ymchwilio ffordd o weinyddu ac amser y weithred
  • Egluro’r term gwrtharwydd a sgil effeithiau (croes) a phryd fydd y rhain mwyaf tebygol
  • Rhestru 5 hawl gweinyddu meddyginiaeth
  • Dangos sut i lenwi siart Cofnod rhoi Meddyginiaethau yn gywir
  • Dangos sut i lenwi gwybodaeth rheoli stoc ar siart Cofnod rhoi Meddyginiaethau yn gywir
  • Adnabod y mathau o wallau meddyginiaeth mwyaf cyffredin, sut maent yn digwydd a sut i'w hosgoi
  • Disgrifio’r broses ar gyfer dychwelyd meddyginiaeth
  • Egluro pwrpas a phrosesau archwiliadau meddyginiaeth yn cynnwys archwiliadau siart Cofnod rhoi Meddyginiaethau
  • Dangos sail gwybodaeth trwy arholiad amlddewis

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs ond heb dderbyn hysbysiad i fynd arno, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs heb fod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi, gan ei bod yn bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content