Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymorth Cyntaf Pediatreg Brys


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs

DyddiadAmser
19 Chwefror 2024 1 diwrnod
4 a 5 Ebrill 2024 9:15am tan 12:30pm
6 a 7 Mehefin 2024 9:15am tan 12:30pm
23 Awst 2024 9:15am tan 4:30pm
23 a 24 Hydref 2024 9:15am tan 12:30pm
15 a 16 Ionawr 2025 9:15am tan 12:30pm

 

Hyfforddwr:  Pauline Salisbury

Lleoliad:  Coed Pella, Ystafell Hyfforddi 1

Gwasanaethau a dargedwyd:  Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, Glan yr Afon

Grŵp Targed:  Gofalwyr Maeth, staff Glan yr Afon, Gweithwyr Sesiynol a Chyswllt, Gweithwyr Cymdeithasol a staff cymorth sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Canlyniadau’r cwrs

Mae’r cwrs yn cynnwys gwaith ymarferol a gwaith dosbarth damcaniaethol, yn ogystal ag asesiadau ymarferol parhaus ar Adfywio Cardio-Pwlmonaidd (CPR) a chymorth cyntaf.

Mae amrywiaeth o bynciau yn cael eu cwmpasu gan gynnwys:

  • Dealltwriaeth o rôl unigolyn cymorth cyntaf pediatreg
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn nad yw’n ymateb nac yn anadlu’n arferol
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sy’n dioddef sioc
  • Sut i asesu sefyllfa frys a gweithredu’n ddiogel ac effeithiol
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd â rhywbeth yn sownd yn eu llwybr anadlu
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn nad yw’n ymateb ac sy’n anadlu’n arferol
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi anafu ac sy’n gwaedu
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn yr amheuir eu bod wedi torri asgwrn neu sydd wedi datgymalu asgwrn
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gyda chyflwr meddygol cronig neu salwch sydyn
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gyda llosgiadau neu sgaldiadau
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gydag anaf i’r pen, gwddf a chefn
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn sy’n profi effeithiau gwres ac oerfel eithafol
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi eu gwenwyno
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf i faban a phlentyn gyda chyflyrau sy’n effeithio ar y llygaid, clustiau a thrwyn
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi cael sioc drydanol
  • Sut i ddarparu cymorth cyntaf ar gyfer baban a phlentyn sydd wedi eu brathu neu bigo

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i ddod arno, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content