Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Epilepsi trwy Zoom


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024:  19 Mehefin,  4 Medi,  6 Tachwedd

Manylion y cwrs

  • Amser:  1:30pm tan 4:30pm
  • Lleoliad:  Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr:  Tim Dallinger (Social Care Consultants Ltd)
  • Gwasanaethau targed:   Holl wasanaethau
  • Grŵp targed:  Pawb sy'n gweitho â phobol gydag epilepsi

Nodau ac amcanion y cwrs

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:

  • Diffinio epilepsi
  • Trafod y driniaeth ar gyfer pobl ag epilepsi
  • Adnabod prif achosion epilepsi
  • Adnabod y prif fathau o drawiadau
  • Rhestru'r pethau sy’n gallu achosi trawiadau
  • Trafod y dewis o driniaethau, gan gynnwys:
    • Meddyginiaeth – mathau a sut maen nhw’n gweithio
    • Pwysigrwydd amseru
    • Diet cetogenig
    • Llawdriniaeth ar yr ymennydd  
    • Ysgogi yn nwfn yr ymennydd 
    • Ysgogi’r nerf trigeminol 
    • Ysgogi’r nerf fagws
    • Therapïau cyflenwol
    • Cymorth cyntaf ar gyfer trawiad
  • Adnabod y prif risgiau ynghlwm wrth epilepsi
  • Egluro'r cyflwr epileptig
  • Cyflwr epileptig dirdynnol
  • Cyflwr epileptig heb fod yn ddirdynnol 
  • Egluro pryd y dylid ffonio 999 (ambiwlans)
  • Rhestru’r triniaethau ar gyfer cyflyrau epileptig a sut maen nhw’n gweithio
  • Diazepan rhefrol
  • Midazolam yn y foch
  • Trafod ffarmacogineteg sylfaenol – y ffordd y mae’r corff yn amsugno cyffuriau
  • Gwybod pryd i roi meddyginiaeth midazolam yn y foch
  • Disgrifio’r weithred o roi midazolam yn y foch
  • Egluro’r gofal ar ôl trawiad
  • Deall pwysigrwydd a gwerth cadw cofnodion da ar gyfer cefnogi epilepsi
  • Marwolaeth Annisgwyl Sydyn mewn Epilepsi

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs ond heb dderbyn hysbysiad i fynd arno, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs heb fod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi, gan ei bod yn bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content