Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Datblygu ac Addysgu Gweithlu Digwyddiadau Dysgu Cyrsiau Iechyd a Diogelwch Rheoli Meddyginiaeth ac Asesu Gallu i Weinyddu Meddyginiaeth o fewn Gofal Cymdeithasol ar Zoom

Rheoli Meddyginiaeth ac Asesu Gallu i Weinyddu Meddyginiaeth o fewn Gofal Cymdeithasol ar Zoom


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024:  10 Mai,  5 Gorffennaf,  3 Rhagfyr
  • 2025:  6 Mawrth

Manylion y cwrs

  • Amser:  1:30pm tan 4:30pm
  • Lleoliad:  Ar-lein trwy Zoom
  • Hyfforddwr:  Tim Dallinger, Social Care Consultants Ltd
  • Gwasanaethau targed:  Busnes a Thrawsnewid, Cymuned a Lles, Tîm Anabledd, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a HSW, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn
  • Grŵp targed:  Holl staff sy'n gweinyddu meddyginiaeth yn y sector gofal

Nodau ac amcanion y cwrs

Er mwyn mynychu’r cwrs hwn rhaid i fynychwyr fod mewn safle lle gallant reoli meddyginiaeth ac asesu cymhwysedd y rhai sy’n rhoi meddyginiaeth.

Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth greiddiol ar reolaeth meddyginiaeth mewn sefyllfa gofal cymdeithasol a galluogi’r rhai sy’n rheoli systemau meddyginiaeth i asesu cymhwysedd y rhai sy’n rhoi meddyginiaeth.

Cynnwys y cwrs:

  • Nodi deddfwriaeth allweddol ynglŷn â rheoli meddyginiaeth.
  • Adnabod elfennau allweddol system reoli meddyginiaeth gadarn.
  • Gweithdrefnau
  • Hyfforddi staff
  • Asesu cymhwysedd
  • Archwiliadau
  • Cofnodi ac ymchwilio gwallau
  • Casglu a dadansoddi data
  • Defnyddio deddfwriaeth allweddol er mwyn datblygu systemau, polisïau a gweithdrefnau rheoli.
  • Systemau rheoli meddyginiaeth yn cynnwys E-systemau.
  • Adnabod elfennau hyfforddi staff mewn gweinyddu meddyginiaeth.
  • Asesu cymhwysedd
  • Archwilio a defnyddio archwiliadau er mwyn hybu gwelliannau parhaus
  • Adnabod gwallau gweinyddu cyffredin, gwraidd yr achosion a sut i’w rhwystro.
  • Disgrifio sut i ymchwilio i wall meddyginiaeth.
  • Defnyddio data ar reoli, gweinyddu, archwilio a gwallau meddyginiaeth er mwyn nodi gwelliannau gwasanaeth.
  • Defnyddio model asesiad cymhwysedd gweinyddu meddyginiaeth i’w defnyddio yn y gweithle.
  • Dangos gwybodaeth greiddiol trwy asesiad ar ddiwedd y cwrs.

Mae’r cyrsiau hefyd wedi’u dylunio er mwyn sicrhau cydymffurfiad gyda RISCA 2016 a Rheoliadau Gwasanaeth Rheoleiddiedig 2017 sy’n dod i rym ar 2 Ebrill 2018.

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar bolisi meddyginiaeth bresennol yn unol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content